Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Gostyngiadau i fusnesau bach
Mae eiddo busnes sydd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000 yn cael gostyngiad o 100%.
Mae’r rhai â gwerth trethadwy sydd rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad ar sail raddol, o 100% i sero.
Gwerth trethadwy | Canran y gostyngiad |
---|---|
0 i 6,000 | 100 |
7,000 | 83.4 |
8,000 | 66.6 |
9,000 | 50.0 |
10,000 | 33.3 |
11,000 | 16.6 |
12,011 | 0 |
Cymhwysedd am ostyngiad
Mae eiddo gyda deiliaid yn cael gostyngiadau busnes yn awtomatig, a bydd yr hysbysiad talu’n dangos hyn. Os yw’r trethdalwr yn gyfrifol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethi annomestig lleol sengl, dim ond hyd at ddau eiddo o’r fath gaiff ostyngiad.
Rhaid i rai mathau o eiddo busnes, fel y rhai sy’n seiliedig ar y defnydd o eiddo, ddweud wrthym am eu cymhwysedd cyn gellir dyfarnu gostyngiad. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.