Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad dros dro i’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2025-26 i gefnogi eiddo preswyl cymwys drwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys; fodd bynnag, bydd y rhyddhad yn amodol ar gap ar y swm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes.

Bydd angen i fusnesau hefyd ddatgan na fyddant yn derbyn cyfanswm o fwy na £315,000 o Gymorth Ariannol Lleiaf (MFA) dros dair blynedd (blynyddoedd ariannol 2023-24 i 2025-26 yn gynwysedig).

Felly, mae’n ofynnol i bob busnes wneud datganiad nad yw swm y rhyddhad y maent yn ei geisio ledled Cymru yn fwy na’r cap o £110,000 na’r MFA o £315,000.

Gwneud cais

I wneud cais, cwblhewch ffurflen gais ar-lein.

Chwilio A i Y

Back to top