Cronfa Effaith Balchder Bro - Cynllun Seilwaith Cyfalaf Mawr
Bydd y cynlluniau'n amrywio o £25,000 i £300,000 ac yn gallu dangos gallu i gyflawni cyn diwedd mis Mawrth 2027.
Bydd angen i’r cynlluniau gael eu datblygu, eu costio a'u cymeradwyo'n llawn gan eu haelod lleol, y gymuned ehangach a chyd-fynd ag amcanion y gronfa.
Nid oes unrhyw gyllid refeniw ar gael trwy’r Gronfa Effaith Balchder Bro, er enghraifft, dim costau staffio, rhentu, biliau, cynhyrchu.
Datganiad o Ddiddordeb
Mae Datganiadau o Ddiddordeb bellach yn cael eu gwahodd gan randdeiliaid i'w hystyried, cyn cyflwyno cynlluniau busnes.
Bydd angen i ddatganiadau o ddiddordeb ddangos yn glir:
- Cymeradwyaeth gan yr aelod lleol a'r gymuned
- Cyd-fynd â blaenoriaethau creu lleoedd ac adfywio'r cyngor, Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU a blaenoriaethau cymunedol a nodwyd yn lleol.
- Gallu i gyflawni – nid cronfa syniadau/dichonoldeb yw hon
- Effaith
- Gwerth am arian
- Bydd tystiolaeth o werth ychwanegol/arian cyfatebol o fudd
Dyddiad Cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb: Dydd Iau 19 Mawrth 2026, 5pm
Gwahoddiad i gyflwyno cynlluniau busnes: Dydd Gwener 27 Mawrth 2026
Dyddiad cau ar gyfer cynlluniau busnes: Dydd Gwener 17 Ebrill 2026
Cyhoeddi’r dyfarniadau 1af: Dydd Llun 11 Mai 2026 (gall hyn newid)
Cyflwynwch y ffurflen hon drwy e-bostio:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: