Grantiau cefnogi busnes

Mae ein cynlluniau grant yn cefnogi busnesau newydd a chwmnîau sydd eisoes yn masnachu neu’n buddsoddi yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae gan bob cynllun grant feini prawf cymhwysedd penodol. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y canllawiau cynllun grant unigol cyn gwneud cais.

Cyswlltu

Logo UK Steel

Grant Cychwyn Busnes – Ar agor

Dyma gynllun grant hyblyg a ddarperir trwy bartneriaeth gyda UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n darparu cymorth ariannol i ficrofusnesau newydd neu bresennol sydd wedi'u lleoli, neu'n bwriadu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cronfa Grant Datblygu Busnes

Bydd y Grant Datblygu Busnes yn cefnogi busnesau bach a chanolig (BBaChau) ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i greu swyddi, arallgyfeirio, datgarboneiddio a thyfu, a fydd yn cyfrannu at greu economi leol fywiog a chryf.

Ardaloedd sy’n cael eu cynnwys:
Y fwrdeistref sirol gyfan

Sectorau a gwmpesir:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
  • Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Creadigol
  • Technoleg Ariannol
  • Yr Economi Sylfaenol Ddynol (Addysg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a'r Gwasanaethau Brys a Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth)

Cyfradd y Grant: 
Yn darparu 50% o gostau prosiectau cyfalaf cymwys.  Yr isafswm grant yw £5,000 a'r uchafswm grant sydd ar gael yw £25,000 (heb gynnwys TAW).  Felly, uchafswm cost y prosiect yw £50,000 (heb gynnwys TAW). 

Grant Cyfalaf Busnes Twristiaeth

Bydd y Grant Cyfalaf Busnes Twristiaeth yn helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynyddu buddsoddiad cyfalaf i gefnogi cynhyrchiant, twf a swyddi newydd. 

Ardaloedd sy’n cael eu cynnwys: 
Y fwrdeistref sirol gyfan

Cyfradd y Grant:  
Yn darparu 50% o gostau prosiectau cyfalaf cymwys.  Yr isafswm grant yw £2,500 a'r uchafswm grant sydd ar gael yw £10,000 (heb gynnwys TAW).  Felly, uchafswm cost y prosiect yw £20,000 (heb gynnwys TAW). 

Sylwer: Bydd y grant yn cau am hanner Dydd Llun, 3 Awst 2026

Mae’n rhaid i bob cais am Grant Datblygu Busnes a Grant Cyfalaf Busnes Twristiaeth alinio â'r ymyrraeth ganlynol: -  

Blaenoriaeth 1: Busnesau mwy Cynhyrchiol a Chystadleuol  
Amcan 2: Cynyddu buddsoddiad cyfalaf mewn busnesau sydd â’r potensial ar gyfer twf mawr, drwy gefnogi twf cynhyrchiant.

Mae’r Grant Datblygu Busnes a’r Grant Cyfalaf Busnes Twristiaeth yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU, drwy Lywodraeth Cymru, a’r nod yw helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynyddu buddsoddiad cyfalaf i gefnogi cynhyrchiant, twf a swyddi newydd.

Logo Llywodraeth Cymru y DU
Ariennir gan Lywodraeth Cymru
Cadw-mi-gei

Grantiau Adfywio Strategol

Mae ein grantiau presennol yn cefnogi gwelliannau i eiddo masnachol a fydd yn adfywio ac yn gwella canol trefi (Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg) a chanolfannau’r ardal a’r canolfannau gwasanaethau lleol yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr.

Chwilio A i Y

Back to top