Tendrau a Chaffael
Gwybodaeth am dendro a chaffael yn cynnwys contractau a ddyfernir, cyfleoedd cyfredol a pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau.
Rydym yn caffael amrywiaeth eang o nwyddau, gwaith a gwasanaethau i gymunedau’r fwrdeistref sirol.
Mae’r cyngor yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gyflenwyr a chontractwyr dendro am ein contractau nwyddau a gwasanaeth angenrheidiol.
Mae gan y cyngor nifer o bolisïau a gweithdrefnau i’w dilyn er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith caffael.
Er mwyn cefnogi a datblygu ein cadwyn gyflenwi leol, rydym yn gobeithio cynnal sesiynau amrywiol (un i un ac ar gyfer grwpiau) er mwyn cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar elfennau amrywiol Caffael.
Gwybodaeth a chanllawiau er mwyn dod yn gyflenwr neu gontractwr ar gyfer y cyngor.
Drwy ddefnyddio ein Strategaeth Gaffael Gymdeithasol Gyfrifol fel canllaw, anelwn i osod sylfaen o bolisïau gwaith cadarn i’n cyflenwyr a chontractwyr eu dilyn.
Mae'r ffordd mae’r cyngor yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn cael ei llywodraethu gan gyfraith y DU a Rheolau Gweithdrefn Gontractau mewnol y cyngor. Mae rheolau gweithdrefn gontractau’r cyngor yn nodi sut rydym yn sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn dangos gwerth clir waeth faint yw gwerth y contract. Mae gennym hefyd ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â Deddf Caffael 2023, sy'n llywodraethu'r ffordd y cynhelir caffael yn y sector cyhoeddus.