Cofrestru masnachwyr metel sgrap

I fod yn fasnachwr metel sgrap, rhaid i chi gofrestru â’ch awdurdod lleol.

Gwneud cais

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Fel arall, lawrlwytho ffurflen gais:

Dychwelwch eich ffurflenni gais wedi'i chwblhau at:

Cyfeiriad: Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen‑y‑bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyfeiriad ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Ystyrir bod masnachwr metel sgrap yn gweithredu busnes mewn ardal os:

  • yw’r masnachwr yn defnyddio man lleol fel garej metel sgrap
  • nad yw’r masnachwr yn defnyddio man lleol i gadw metel sgrap, ond ei fod yn byw’n lleol
  • nad oes gan y masnachwr fan lleol i gadw metel sgrap, ond mae ganddo fan leol at ddibenion busnes

Rhaid i ymgeiswyr nodi:

  • eu henw llawn
  • cyfeiriad y masnachwr, neu yn achos cwmni, y brif swyddfa gofrestredig
  • cyfeiriad pob man lle mae metel yn cael ei gadw os oes rhai
  • p’un a yw’r busnes yn rhedeg heb fan cadw metel sgrap
  • os yw’r busnes yn rhedeg heb fan cadw metel sgrap, p’un a yw ymgeiswyr yn defnyddio man at ddibenion busnes, a chyfeiriad y man hwnnw

Rhaid i’r masnachwr cofrestredig roi gwybod i’r awdurdod lleol os bydd y manylion hyn yn newid, neu os nad yw’n fasnachwr metel sgrap mwyach.

Cewch chi gymryd bod eich cais wedi’i gymeradwyo hyd yn oed os na chlywch gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd disgwyliedig y cais.

Gall busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr apelio drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod:

Cyfeiriad: Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen‑y‑bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyfeiriad ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Gall busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gysylltu â ni ynghylch iawndal gan ddefnyddio’r manylion isod.

Cyfeiriad: Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen‑y‑bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyfeiriad ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Wrth gwyno, gwnewch y cyswllt cyntaf â’r masnachwr eich hun, ac yn ddelfrydol drwy lythyr gyda phrawf danfon. Os nad yw hynny’n gweithio a’ch bod chi yn y DU, gall Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr eich helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU.

Does dim math arall o iawndal.

Chwilio A i Y

Back to top