Hysbysiadau digwyddiad dros dro

Mae Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn rhoi hawl i safle/clwb gyflenwi alcohol, adloniant rheoledig a lluniaeth hwyrnos dros dro.

Gwneud cais

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais ar-lein:

Fel arall, gwnewch gais am hysbysiad digwyddiad dros dro all-lein:

  1. Cwblhau a chyflwyno’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn ddeublyg i’r Adran Trwyddedu o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
  2. Talu’r ffi.
  3. Cyflwyno copi o’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro i Brif Swyddog yr Heddlu ac i Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar yr un pryd.

Nodwch: Gall yr Heddlu ac Adran Diogelu'r Cyhoedd wrthwynebu Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro dan yr amcanion trwyddedu. Hefyd, nid yw penwythnosau a gwyliau'r banc, dyddiad y digwyddiad a dyddiad mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno yn cael eu hystyried yn ddyddiau gwaith.

Y cyfeiriadau ar gyfer cyflwyno copïau o’r hysbysiad yw:

Cyfeiriad: Yr Uwch-arolygydd (Trwyddedu), Heddlu De Cymru, Ffordd y Frenhines, Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3UT.
Cyfeiriad: Adran Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Bydd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn cael ei gydnabod gan yr Adran Trwyddedu cyn ei ddychwelyd i ddefnyddiwr y safle.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr eithriadau o ran cyflwyno Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ar wefan Llywodraeth y DU.

I ddarllen canllawiau mwy manwl, gweler y Ffurflen Hysbysiad Dros Dro. Mae nodiadau ar gefn y ffurflen a bydd rhaid i’r unigolyn sy’n cyflwyno’r hysbysiad ddarllen y nodiadau hyn cyn y gellir cwblhau’r cais.

Chwilio A i Y

Back to top