O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Trwydded bersonol
Mae trwydded bersonol yn caniatáu i berson werthu alcohol neu gymeradwyo ei werthu dan awdurdod trwydded safle.
Rhaid i berson gaiff ei enwi ar drwydded safle fel Goruchwylydd Safle Dynodedig fod â thrwydded bersonol.
Gwneud cais
I wneud cais am drwydded bersonol, dylai ymgeiswyr wneud cais i’r awdurdod lleol lle maent yn byw fel arfer.
I wneud cais, cwblhewch y camau canlynol:
- Cyflwynwch ffurflen gais am drwydded bersonol, gan ddatgelu euogfarnau.
- Cyflwyno tystysgrif cymhwyster trwyddedu cymwys gwreiddiol.
- Cyflwyno dau ffotograff o’r ymgeisydd. Rhaid i un gael ei ardystio gan gyfreithiwr, notari, person parchus yn y gymuned neu berson proffesiynol cymwys gyda datganiad yn gwirio tebygrwydd gwirioneddol.
- Darparu tystysgrif datgelu euogfarn troseddol sylfaenol.
- Talu’r ffi priodol.
Dychwelwch eich ffurflenni gais wedi'i chwblhau at:
Gall ymgeiswyr sydd yn bodloni’r meini prawf perthnasol gael trwyddedau dan Gynllun Dirprwyaeth y Cyngor. Fodd bynnag gydag ymgeiswyr a gafwyd yn euog o droseddau ‘perthnasol’, mae’n bosib y bydd Prif Swyddog yr Heddlu yn ystyried bod eu cais yn tanseilio atal trosedd.
Yna, mae’n bosib y bydd y cais yn cael ei osod i’w ystyried ger bron Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor.
Defnyddiwch y ffurflen 'cais am drwydded bersonol newydd' i ddweud wrthym am unrhyw newid enw neu gyfeiriad. Fe’i defnyddiwch hefyd i roi gwybod am drwydded sydd wedi’i cholli neu’i difrodi.