O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Trwydded sefydliad marchogaeth
Mae safle sydd yn cynnig llogi ceffylau neu ferlod i’w marchogaeth neu ar gyfer gwersi angen trwydded awdurdod lleol, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Gwneud cais
I wneud cais, llenwch y Ffurflen Gais Sefydliad Marchogaeth a'r Ffurflen Gofrestru Manylion Ceffyl:
Dychwelwch eich ffurflenni gais wedi'i chwblhau at:
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Yng Nghymru a Lloegr, ni chânt fod wedi eu hanghymhwyso:
- Rhag cadw sefydliad marchogaeth
- Rhag cadw siop anifeiliaid anwes dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
- Rhag bod â gofal dros anifeiliaid dan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygiedig) 1954
- Rhag cadw sefydliadau llety i anifeiliaid dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
- Dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rhag delio, cludo, cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, dylanwadu ar y modd y cânt eu cadw neu ymwneud â’u cludo nhw
- Rhag bod yn berchen ar, cadw, delio neu gludo anifeiliaid dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006
Rhaid i ymgeiswyr dalu unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig â’r cais a’r drwydded a chydymffurfio ag amodau’r drwydded.
Rhaid i’r awdurdod lleol edrych ar adroddiad milfeddyg neu ymarferwr. Bydd hwn yn nodi addasrwydd y safle ar gyfer sefydliad marchogaeth, yn ogystal â’i gyflwr a chyflwr unrhyw geffylau.
Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried addasrwydd a chymwysterau’r ymgeisydd dros gadw trwydded. Rhaid iddynt hefyd fod wedi eu bodloni:
- y rhoddir ystyriaeth i gyflwr y ceffylau ac y cânt eu cadw mewn iechyd da ac yn ffit yn gorfforol
- bod y ceffylau yn addas i’w marchogaeth neu eu defnyddio mewn gwersi
- y caiff carnau’r anifeiliaid eu trin yn iawn a phedolau sydd yn ffitio’n iawn mewn cyflwr da
- y bydd gan y ceffylau lety addas
- y bydd porfeydd addas, cysgod a dŵr i geffylau a gedwir ar wair ac y darperir bwydydd ychwanegol yn ôl yr angen
- y bydd ceffylau yn derbyn bwyd, diod a deunydd gwâl addas ac y cânt eu hymarfer, eu gwastrodi, eu gorffwys ac yr ymwelir a hwy yn rheolaidd
- y cymerir rhagofalon i atal lledaeniad afiechydon, a bydd offer cymorth cyntaf milfeddygol a meddyginiaethau yn cael eu cadw
- y bydd mesurau cywir ar waith i ddiogelu a thynnu ceffylau o unrhyw dannau
- y bydd lle i storio bwydydd, deunydd gwâl, offer stablau a chyfrwyau
Fel rhan o’r rhagofalon tân, rhaid arddangos enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded y tu allan i’r safle. Hefyd, rhaid arddangos unrhyw gyfarwyddiadau tân.
Yn ychwanegol, mae trwydded sefydliad marchogaeth yn amodol ar yr amodau:
- na fydd ceffylau y gwelir bod angen sylw milfeddygol arnynt yn gweithio hyd nes y bydd deiliad y drwydded yn derbyn tystysgrif filfeddygol yn cadarnhau ffitrwydd yr anifail i weithio
- na fydd ceffylau yn cael eu llogi neu eu defnyddio mewn gwersi heb eu harolygu gan berson cyfrifol dros 16 oed, oni bai bod y trwyddedeion yn fodlon nad oes angen goruchwylio’r marchogion
- na chaiff rhywun o dan 16 ei adael yn gyfrifol am y busnes
- y bydd gan y trwyddedai yswiriant indemnio
- y bydd y trwyddedai yn cadw cofrestr o’r ceffylau yn eu meddiant sydd yn dair oed neu iau, y gellir eu harchwilio ar unrhyw adeg sy’n rhesymol.
Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Os gwrthodir eich cais, gallwch apelio yn y llys ynadon lleol. Yn yr Alban, gall ymgeiswyr y gwrthodir eu cais iddynt apelio i’r siryf lleol.
Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, yn ddelfrydol drwy lythyr â phrawf dosbarthu. Os nad yw hynny yn gweithio a’ch bod yn y DU gall, Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â UK European Consumer Centre.
Nid oes unrhyw ffurf arall ar iawndal i’w gael.