Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Gwrth derfysgaeth (Atal)
Mae Atal yn defnyddio cefnogaeth pobl yn ein cymunedau ni i gyrraedd y rhai a all gael eu denu at derfysgaeth drwy safbwyntiau eithafol yn aml.
Nid dal terfysgwyr yw nod Atal. Y nod yw adnabod pobl sy’n cael eu radicaleiddio neu sy’n wynebu risg o hynny, a’u cefnogi i newid cyfeiriad.
Adroddwch ar fygythiad brys
Os gwelwch chi rywun yn ymddwyn yn amheus neu gerbyd, neu becyn neu fag wedi’i adael sy’n fygythiad ar unwaith o bosib, symudwch oddi wrtho a ffonio 999.
Adroddwch ar fygythiad nad yw’n fater o frys
Os ydych chi’n bryderus am weithgarwch terfysgol posib neu’n poeni bod rhywun yn wynebu risg o gael ei radicaleiddio, llenwch ffurflen gyfeirio neu ffonio’r Heddlu ar 101.