Cynlluniau a Strategaethau
Dogfennau, cynlluniau a strategaethau allweddol y cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Cynllun newydd hwn, Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-25, yn nodi'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd am y tair blynedd nesaf. Mae'n cael ei lywio gan argymhellion yr Adroddiad Cynnydd, a dynnodd sylw at gryfderau i adeiladu arnynt, a meysydd ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.
Wedi'i chynhyrchu ar y cyd gyda grŵp o'n plant a'n pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, mae Strategaeth Magu Plant Gorfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi'r hyn y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn ei wneud i fod y rhieni corfforaethol gorau y gallwn ni fod.
Mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2023-28 yn nodi blaenoriaethau’r cyngor a sut fyddwn yn gweithio ochr yn ochr â phobl a phartneriaid lleol i gyflwyno gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) yn ddatganiad a rennir o fwriad i reoli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan lwyddiannus i ymwelwyr rhwng 2022 a 2027.
Mae ein Strategaeth Ddigidol yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cael Cyngor Digidol sy’n cydnabod uchelgais strategaeth ‘Digidol yn Gyntaf’ Llywodraeth Cymru Strategaeth Drawsnewid Llywodraeth y DU ac yn alinio gyda hwy.
Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Datblygwyd ein Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ein gwasanaethau.
Mae'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) yn ystyried y rôl ehangach mae bioamrywiaeth yn ei chwarae wrth ddarparu buddion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol (LTP) yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gosod ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth dros gyfnod o 15 mlynedd.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r targed Sero Net erbyn 2030, ac yn cydnabod y rôl arweiniol ar lefel ehangach, o safbwynt galluogi busnesau a chymunedau’r sir i gyflawni Sero Net.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut y byddwn yn mynd ati i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb a sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymateb i anghenion amrywiol yr unigolion sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r fwrdeistref sirol.
Mae’r Datganiad Llesiant yn nodi amcanion llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn disgrifio sut y byddant yn ein helpu i gyflawni’r saith nod llesiant ar gyfer Cymru.
Bob blwyddyn, mae'n rhaid i ni gyhoeddi adroddiad hunanasesiad. Mae'r adroddiad yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ein bod yn perfformio'n dda, gan wneud penderfyniadau mewn modd call, agored a chan ddefnyddio ein harian ac adnoddau eraill yn y ffordd gywir.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn a bod ei ddyletswyddau statudol i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu cyflawni’n effeithiol.
Mae Strategaeth Dysgu Digidol Ysgolion yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni rhagoriaeth addysg ddigidol ar draws ein hysgolion. Mae'n sicrhau bod gan ysgolion adnoddau da, a bod addysgwyr wedi eu paratoi'n dda i ddarparu addysg ddigidol o ansawdd uchel, tra hefyd yn helpu ysgolion i gynllunio, rheoli a buddsoddi yn eu seilwaith technoleg.
Mae’r adroddiad blynyddol yn nodi effeithiolrwydd y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol a lles i’n preswylwyr Mae’n helpu i ddathlu’r hyn sy’n mynd yn dda, cydnabod lle mae angen i ni wella a gosod blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.