Bydd casgliadau gwastraff yn dechrau yn gynt na'r arfer am 6yb ddydd Gwener 10 Gorffennaf i helpu i amddiffyn y criwiau rhag tymereddau cynyddol - Diweddariadau casglu
Diweddariadau Tywydd Garw
Os bydd eira, llifogydd neu dywydd garw, bydd gwybodaeth am wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei rhannu yma.
Diweddariadau diweddaraf
Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026 - Mae rhybudd coch am wres eithafol ar waith ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y dyddiau nesaf.
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu i ddechrau'n gynharach oherwydd y gwres eithafol
Gofynnir i drigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr roi eu gwastraff a'u hailgylchu allan yn gynt nag arfer ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon (24 a 25 Mehefin) er mwyn helpu i ddiogelu criwiau gwastraff ac ailgylchu rhag y gwres eithafol ac i leihau'r siawns o fethu â chwblhau casgliadau.
Disgwylir i gasgliadau ddechrau tua 4.30am a chynghorir pob preswylydd i roi eu gwastraff a'u hailgylchu allan y noson cyn eu dyddiad casglu arferol.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd gwres coch ar 24 a 25 Mehefin, gan ragweld y bydd y tymheredd yn codi i hyd at 37°C.
Canolfannau Ailgylchu
Oherwydd y gwres eithafol a ragwelir ar gyfer yr wythnos hon, bydd Canolfannau Ailgylchu Cymunedol ar gau
- Dydd Mercher 24 Mehefin 2026
- Dydd Iau 25 Mehefin 2026
Cau ysgolion
Yn dilyn y newid i rybudd coch am wres eithafol ar gyfer dydd Mercher a dydd Iau, efallai y bydd angen i rai ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gau neu wneud newidiadau i'w trefniadau agor.
Os ydych chi'n mwynhau'r haul, cymerwch ychydig o gamau syml i gadw'n ddiogel:
- Yfwch ddigon o ddŵr.
- Gwisgwch eli haul SPF 30+, dillad ysgafn, het a sbectol haul.
- Gwiriwch sut mae perthnasau hŷn, cymdogion ac unrhyw un a allai fod yn fwy bregus yn ystod y tywydd poeth.
- Cynlluniwch deithiau cerdded, ymarfer corff a garddio ar gyfer rhannau oerach y dydd.
- Cadwch anifeiliaid anwes yn oer, gwnewch yn siŵr bod ganddynt ddigon o ddŵr ffres a pheidiwch byth â'u gadael mewn car wedi'i barcio.
Os ydych chi'n mynd i'r arfordir:
- Nofiwch a defnyddiwch byrddau corff rhwng y baneri coch a melyn lle mae achubwyr bywyd RNLI ar ddyletswydd.
- Ewch i syrffio, caiacio a phadfyrddio rhwng y baneri du a gwyn.
- Os ydych chi'n cael trafferth yn y dŵr, cofiwch arnofio i fyw trwy orwedd ar eich cefn ac ymlacio.
- Peidiwch â nofio ar draws sianel fynediad Marina Porthcawl na phlymio o'r morglawdd.
- Os ydych chi'n defnyddio barbeciw untro, gadewch iddo oeri gyda dŵr y môr cyn ei roi yn un o'r biniau barbeciw gwrth-dân pwrpasol. Peidiwch byth â chladdu glo poeth yn y tywod.
Os yw rhywun yn dangos arwyddion o drawiad gwres, fel dryswch, tymheredd uchel iawn y corff neu stopio chwysu, ffoniwch 999 ar unwaith.
Os ydych chi'n gweld rhywun mewn trafferthion yn y môr, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.
Mae gweithwyr gofal cartref yn helpu’r henoed a phobl fregus gydag amrywiaeth o dasgau gofal personol fel:
- codi o’r gwely
- ymolchi a gwisgo
- bwyta ac yfed
- paratoi ar gyfer mynd i’r gwely gyda’r nos
- siopa
- tasgau eraill yn y cartref
Mae gwasanaethau rheng flaen hanfodol fel gofal cartref yn parhau’n flaenoriaeth mewn tywydd drwg iawn, ac rydym yn ei ddarparu drwy gydol y flwyddyn.
Yn ystod eira trwm y blynyddoedd diwethaf, mae ein staff ni wedi gwneud pob ymdrech i ymweld â defnyddwyr, sy’n cynnwys defnyddio cerbydau gyriant pedair olwyn.
Hefyd rydym yn rhoi blaenoriaeth i’n cwsmeriaid mwyaf bregus a’r rhai ag anghenion meddygol penodol.
Gallwch helpu eich cymuned drwy gadw llygad ar gymdogion, ffrindiau a pherthnasau bregus yn ystod tywydd drwg iawn.
Gall tywydd drwg iawn effeithio ar ysgolion lleol mewn gwahanol ffyrdd.
Gall orfodi ysgol i gau oherwydd y canlynol:
- eira trwm yn atal athrawon a staff rhag teithio i’r gwaith, sy’n debygol iawn os nad ydynt yn byw yn agos at yr ysgol
- systemau gwresogi’n methu
- pibellau dŵr wedi byrstio’n gallu arwain at ddŵr mewn ystafelloedd dosbarth
I helpu i roi gwybod i rieni, gwarcheidwaid a disgyblion am unrhyw ysgolion yn cau, rydym wedi sefydlu tudalen ysgolion yn cau ar y we.
Gall penaethiaid ddiweddaru’r dudalen yma’n uniongyrchol o’u lleoliadau hwy.
Mae’n bwysig gofalu am ein gilydd mewn tywydd drwg iawn, ac yn enwedig pobl fregus fel cymdogion mewn oed neu anabl.
Gallwch wneud hyn drwy ystyried pwy o’ch amgylch chi sy’n wynebu risg a gwneud trefniadau gyda nhw i’w helpu gyda siopa am fwyd neu dasgau pwysig eraill.
Hefyd, gall cymunedau baratoi ar gyfer tywydd drwg iawn drwy benderfynu a oes modd gwneud tasgau ar y cyd yn hytrach nag yn unigol. Gall hyn leihau effeithiau tywydd drwg iawn yn y cartref ac yn y gwaith, drwy glirio eira o fynedfeydd neu lefydd parcio, er enghraifft.
-
Cadw’n ddiogel yng nghwmni dieithriaid - Dim ond gan bobl rydych chi’n eu hadnabod ddylech chi dderbyn help, ac aelodau o sefydliad gwirfoddol cyfarwydd i chi. Os nad ydych yn adnabod rhywun, gofynnwch iddyn nhw am fathodyn adnabod a’i wirio cyn eu gadael i mewn i’ch tŷ. Ni fydd cynorthwywyr didwyll yn poeni am orfod aros pan rydych chi’n gwneud hyn.
- Cefnogi eich cymuned - Efallai bod cyfleoedd hefyd i chi ymwneud â chynlluniau gwirfoddoli lleol yn ystod tywydd drwg iawn.
- Cyngor Rheolau’r Ffordd Fawr - Rheolau gyrru mewn amodau tywydd gwael, gan gynnwys tywydd gwlyb, rhew ac eira, tywydd gwyntog, niwl a thywydd poeth.
- Bridge FM - Gwrandewch am newyddion a diweddariadau lleol.
- BBC Wales - Diweddariadau newyddion lleol.
- Diweddariadau’r Swyddfa Dywydd - Rhybuddion tywydd difrifol gan y Swyddfa Dywydd
- Traffig Cymru
- Age UK - 02920 431555
- Benthyciadau Cyllidebu - 0845 6043719
- Gofal a Thrwsio - 01656 646755
- Canolfan Cyngor ar Bopeth - 03444 772020
- Dial UK - 0808 800 3333
- Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni - 0300 1231234
- Diogelwch Tân - 0800 1691234
- Iechyd a Diogelwch Nwy - 0800 300363
- Cyngor y Swyddfa Dywydd - Cyngor i gadw eich cartref yn ddiogel waeth beth yw’r tywydd.
- Gwasanaeth Cyngor - 0800 1387777
- National Debtline - 0808 8084000
- National Insulation Association - 0845 1636363
- NEST, cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru - 0808 808 2244
- Cyngor y GIG - Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu’ch hun i gadw’n iach yn ystod y gaeaf.
- Gwasanaeth Pensiwn - 0845 6060265
- Royal National Institute of Blind People - 029 2082 8500
- Taliadau tanwydd dros y gaeafs - 0800 731 0160
- Royal Voluntary Service - 0845 608 0122
Dolenni Defnyddiol
Cyfeiriadur o adnoddau defnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer gwahanol fathau o dywydd gwael ac ymdopi ag ef:
Cwestiynau Cyffredin
Mae’r atebion yma’n ateb y cwestiynau cyffredin am dywydd y gaeaf.
Ewch i’n tudalen cau ysgolion i weld a yw’r ysgol ar agor. Mae’r dudalen yn cael ei diweddaru’n uniongyrchol yn gyson.
Hefyd, gwrandewch am unrhyw gyhoeddiadau ar BridgeFM ar 106.3 FM a hefyd ar orsafoedd radio lleol eraill. Gallwch wirio gwybodaeth BBC Cymru Wales am gau ysgolion hefyd.
Gall tywydd drwg iawn effeithio ar ysgolion lleol mewn gwahanol ffyrdd. Yn ogystal â gorfodi ysgolion i gau, gall eira trwm atal staff rhag teithio i’r gwaith, yn enwedig os ydynt yn byw ymhell i ffwrdd.
Gall problemau eraill cyffredin orfodi ysgolion i gau eu drysau hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys systemau gwresogi ddim yn gweithio neu bibellau wedi byrstio, a all achosi llifogydd mewn ystafelloedd dosbarth.
Cyn belled â’i bod yn ddiogel i weithwyr a thrigolion, byddwn yn gwneud ein gorau i gasglu sbwriel ac ailgylchu.
Er hynny, gyda 65,000 o gartrefi ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd rhywfaint o oedi’n anochel mewn tywydd drwg iawn.
Yn ystod yr amseroedd hyn, byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am unrhyw newidiadau dros dro i gasgliadau drwy ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae rhew ac eira’n gallu gwneud unrhyw siwrnai yn beryglus, yn arbennig felly ar rai o’n ffyrdd culach a serthach.
Hefyd mae’n beryglus iawn pan mae cerbyd yn lori ailgylchu drom a llawn.
Hyd yn oed pan mae ein cerbydau’n gallu defnyddio ffyrdd gyda gofal, gall palmentydd a llwybrau troed fod wedi’u heffeithio o hyd gan rew.
Mae hyn yn eu gwneud yn beryglus i gasglwyr sbwriel a deunyddiau i’w hailgylchu.
Yn ystod tywydd oer, rydym yn cael rhagolygon penodol y tywydd deirgwaith y dydd gan MeteoGroup UK. Mae gan ein bwrdeistref sirol gymysgedd ddaearyddol amrywiol o gymoedd ac arfordir ac felly mae’r rhagolygon ar gyfer mewndir uchel neu isel ac ardaloedd arfordirol.
Hefyd, rydym yn gyfrifol am bum gorsaf dywydd. Mae’r rhain yn defnyddio offer fel synwyryddion rhew i roi manylion fel amodau atmosfferig a thymheredd arwynebau ffyrdd lleol.
Rydym yn defnyddio’r holl wybodaeth yma i ddarogan y tywydd. Os oes disgwyl rhew, rydym yn trin y rhannau a ddefnyddir fwyaf o rwydwaith y ffyrdd ymlaen llaw gyda halen craig er mwyn atal barrug a rhew.
Rydym yn trin y rhannau a ddefnyddir fwyaf o rwydwaith y ffyrdd ymlaen llaw gyda halen craig er mwyn atal barrug a rhew.
Ar gyfer ardaloedd i gerddwyr, mae gweithwyr y cyngor yn defnyddio offer arbenigol i chwistrellu dŵr hallt, toddiant halen sy’n helpu i doddi rhew. Hefyd rydym yn clirio eira gyda llaw a gyda pheiriannau chwythu eira.
Nid yw’n effeithiol rhoi halen ar eira ffres. O ganlyniad, ni fyddwch yn gweld lori raeanu pan mae hi’n bwrw eira, oherwydd byddai’n rhaid clirio’r ffyrdd gydag aradr cyn eu trin.
A dweud y gwir, mae halennu ffyrdd yn dibynnu ar sawl ffactor, fel lleithder a chlosrwydd. Er enghraifft, mae halen yn llawer llai effeithiol ar dymheredd is na -10 gradd Celsius.
Gyda’r cynghorau cymuned lleol, rydym yn darparu tua 400 o finiau graeanu ar safleoedd sydd wedi’u dewis yn ofalus ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Fel rheol mae’r rhain ar ochr ffyrdd preswyl ac ar fân lwybrau eraill. Fel rheol maent ar gyffyrdd neu lethrau serth, a chan eu bod yn felyn llachar, mae’n hawdd eu gweld.