Rhoi gwybod am broblem
Rhoi gwybod am broblem i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Wrth adrodd am broblem i ni, rhowch gynifer o fanylion defnyddiol â phosib, gan gynnwys y dyddiad a’r amser pan sylwoch chi ar y broblem, ei lleoliad, eich enw a’ch rhif ffôn cyswllt yn ystod y dydd.
Mae gan y cyngor y pŵer i symud neu gael gwared ar gerbydau wedi’u gadael dan Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978.
Eiddo preswyl sector preifat sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yw eiddo gwag. Nid yw pob adeilad yn cyd-fynd â’r diffinaid hwn, ond maent yn rhan o hyd o’r strategaeth i leihau eiddo gwag a chynyddu argaeledd tai.
Mae’n drosedd i berchnogion cŵn beidio â chodi baw eu ci. Fel cosb, gallai fod rhaid talu dirwy cosb benodedig neu gallech gael gwŷs dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996.
Dympio gwastraff yn anghyfreithlon yw tipio anghyfreithlon. Gallai hyn fod ar ymyl y ffordd, ar dir preifat neu mewn afonydd.
Mae’r Tîm Ymchwilio Twyll Corfforaethol yn cynnwys ymchwilwyr sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol. Maen nhw’n cynnal ymchwiliadau sifil a throseddol yn ymwneud ag atal a chanfod troseddau, dal ac erlyn troseddwyr, ac adfer enillion troseddau.
Gallwch adrodd bod eich casgliad ailgylchu neu wastraff wedi’i fethu ar-lein ar wefan Plan B
Rhowch wybod am faterion ffyrdd neu balmentydd, gan gynnwys tyllau, malurion/mwd, rhwystrau, eira/rhew, pyllau o ddŵr a gollyngiadau.
Rhowch wybod am broblemau gosodiadau neu arwyddion ffordd, gan gynnwys rheiliau llaw, arwyddion ffordd, meinciau, bolardiau ac arwyddion / hysbysebion anghyfreithlon.
Rhowch wybod am faterion biniau halen, gan gynnwys adrodd am ddifrod, gwneud cais i gael gwared ar un, gwagio bin halen a gwneud cais am fin halen newydd.
Rhowch wybod am ardaloedd gwyrdd ar ffyrdd neu balmentydd, gan gynnwys ymylon wedi’u difrodi, coed, chwyn, gwrychoedd a mieri neu ordyfiant.
Wedi gweld grid gwartheg wedi’i ddifrodi? Gallwch adrodd hyn inni ar-lein
Os ydych chi wedi gweld anifeiliaid rhydd yn yr ardal, gallwch roi gwybod i ni am hyn ar-lein.
Wedi gweld pont wedi’i difrodi? Gallwch adrodd hyn inni ar-lein
Mae twyll treth gyngor yn digwydd pan mae rhywun yn rhoi gwybodaeth ffug i ni i osgoi talu’r swm cywir.
Gall hyn gynnwys camddefnyddio trwydded ddilys neu ddefnyddio trwydded ffug.
Os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, dylech roi gwybod inni’n syth trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gallwch adrodd golau stryd sydd difrodedig neu ddiffygiol ar-lein drwy Fy Nghyfrif.
Dylid adrodd problemau safonau masnach megis trosedd ar yr hiniog, iechyd a llesiant anifeiliaid, sgamiau a benthyca arian yn anghyfreithlon i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Gallwch adrodd problemau iechyd yr amgylchedd, megis llygredd, rheoli plâu, afiechydon heintus a chwynion bwyd i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Os ydych wedi gweld difrod i unrhyw un o'n caeau chwarae neu fannau gwyrdd ar draws y fwrdeistref sirol, gallwch roi gwybod i ni am hyn ar-lein.
Gall coed sydd wedi cwympo achosi difrod i ffyrdd ac oedi o ran traffig.
Os ydych wedi dod ar draws unrhyw ddifrod i'n parciau chwarae plant, gallwch roi gwybod i ni am hyn ar-lein.
Mae reidio beiciau yn anghyfreithlon yn rhoi'r cyhoedd a'r beicwyr eu hunain mewn perygl, gellir eu defnyddio i gyflawni trosedd, gall achosi difrod troseddol, a gellir tybio bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yr Amgylchedd
Gallwch adrodd cerbydau wedi’u gadael, baw ci a thipio anghyfreithlon i:
Trafnidiaeth
Gallwch adrodd problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, diogelwch y ffyrdd, rheolaeth traffig a meysydd parcio i:
Rheoli adeiladau
Gallwch adrodd strwythurau peryglus, problemau gyda draeniau a charthffosydd wedi’u blocio ar dir preifat i:
Hwb Diogelu Aml Asiantaeth (MASH)
Mae Hwb Diogelu Amlasiantaeth Pen-y-bont ar Ogwr, neu MASH, yn darparu gwasanaethau diogelu gan y cyngor a’n partneriaid ledled y gymuned yn un lle.