Asesiad Perfformiad Panel

Un o ofynion y drefn gwella llywodraeth leol newydd a nodir yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yw i Gynghorau gynnal Asesiad Perfformiad Panel, neu APP, unwaith ym mhob cylch etholiadol. 

Mae'n rhaid i'r APP nodi casgliadau ynghylch a yw'r Cyngor wedi bodloni'r 'gofynion perfformiad' yn ystod y flwyddyn ariannol honno a gwneud argymhellion ar gamau sydd eu hangen i wella.

Mae'r 'gofynion perfformiad' yn canolbwyntio ar y canlynol:

  1. Ydyn ni’n arfer ein swyddogaethau yn effeithiol
  2. Ydyn ni’n defnyddio ein hadnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol
  3. A yw ein llywodraethu yn gadarn.

Cynhaliwyd ein APP cyntaf ym mis Medi 2025 gyda'r panel ar y safle rhwng 16 a 19 Medi 2025.  Fe wnaethant gynnal cyfweliadau gydag amrywiaeth o aelodau etholedig, swyddogion cyngor a phartneriaid. Fe wnaethant hefyd gynnal grwpiau ffocws gyda defnyddwyr gwasanaethau'r cyngor a chynrychiolwyr cymunedol, gan gynnwys Undebau Llafur, Cynghorau Tref a Chymuned, y gymuned fusnes, y Cyngor Ieuenctid, pobl hŷn, dinasyddion a phenaethiaid.

Yn ogystal â'r tri 'gofyniad perfformiad' statudol, gofynnom i'r panel ganolbwyntio ar dri maes arall:

  1. Trawsnewid - Datblygu strategaeth drawsnewid sy'n bodloni dyheadau gwleidyddol a rhanddeiliaid allweddol sy'n cael ei ategu gan drefniadau effeithiol ar gyfer cyflawni, rheoli perfformiad a diwylliant o her adeiladol. Angen amlwg i ganolbwyntio ar fecanweithiau a gallu i drawsnewid fydd yn gwella profiad dinasyddion ac yn creu sefydliad sy'n gynaliadwy yn y tymor canolig a'r hirdymor. 

  2. Mynd i'r afael â heriau'r gweithlu - Datblygu cynllunio gweithlu cryfach, mynd i'r afael â heriau wrth recriwtio mewn meysydd allweddol, a gwella cynllunio olyniaeth, i helpu'r Cyngor i greu strategaeth gweithlu hirdymor.

  3. Gwella ymgysylltu - Datblygu gwelliannau i gyfathrebu strategol, gwella ymgysylltiad a pherthnasoedd y Cyngor yn fewnol gyda chynghorwyr ac yn allanol gyda chymunedau lleol a chynghorau tref a chymuned i'w helpu i ganolbwyntio mwy ar ddinasyddion.

Ar gyfer pob un o'r tri gofyniad perfformiad a'r tri maes a godwyd gan y Cyngor, amlinellodd y panel gryfderau a meysydd i'w gwella. Darparodd y panel wyth argymhelliad hefyd.

Roedd yr asesiad yn cydnabod bod y Cyngor yn perfformio'n dda, gydag arweinyddiaeth gref, gweithlu ymroddedig, a hunan-ymwybyddiaeth glir, ond tynnodd sylw at yr angen i gyflymu newid i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. 

Prif ganfyddiadau'r APP oedd:

  • Bod Pen-y-bont ar Ogwr yn gyngor da sydd â photensial heb ei ddefnyddio.
  • Mae yna arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol sydd yn uchelgeisiol i Ben-y-bont ar Ogwr.
  • Mae'r gweithlu yn frwdfrydig, yn ymroddedig, ac yn poeni’n fawr am y cyngor a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
  • Mae gan y cyngor lefelau uchel o hunan-ymwybyddiaeth - asesiad clir a rennir o gryfderau a'r heriau sydd o'n blaenau.
  • Mae'r cyngor yn barod am newid ac yn gadarnhaol am y dyfodol.

Asesiad Perfformiad Panel (APP) 

Mae adroddiad llawn y panel a'n hymateb ffurfiol sy'n amlinellu'r camau gweithredu arfaethedig i'w gweld isod:

Chwilio A i Y

Back to top