Diogelu Data
Mae’r DU Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (DU RhDDC) a Deddf Diogelu Data 2018 yn rheoleiddio prosesu gwybodaeth mewn perthynas ag unigolion. Mae hyn yn cynnwys cael, cadw, defnyddio neu ddatgelu gwybodaeth o’r fath.
I sicrhau ein bod ni’n ymdrin â data personol yn gyfreithlon ac yn briodol, mae’n rhaid i ni gydymffurfio â’r Ddeddf ac yn benodol â’r Egwyddorion Diogelu Data. Mae’r rhain yn gofyn bod rhaid i’r data personol:
- gael ei brosesu’n deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw
- cael ei gasglu at ddibenion penodedig, eglur a cyfreithlon
- bod yn ddigonol, yn berthnasol ac yn angenrheidiol
- bod yn gywir a lle y bo’n angenrheidiol, yn gyfredol
- cael ei gadw ar ffurf lle y gellir adnabod y person am yn hwy nag sydd ei angen
- cael ei brosesu’n ddiogel
Eich hawliau o dan y Ddeddf
Dan y ddeddf, eich hawliau yw:
Mae gennych yr hawl i wybod a yw eich data personol yn cael ei brosesu ac os felly, mae gennych hawl i gael copi.
Mae gennych yr hawl i gael data personol anghywir wedi’i unioni heb oedi gormodol.
O dan rai amgylchiadau penodol mae gennych yr hawl i gael eich data personol wedi’i ddileu.
O dan rai amgylchiadau penodol mae gennych yr hawl i’n cyfyngu rhag prosesu eich gwybodaeth.
Mae gennych yr hawl i dderbyn y data personol rydych wedi’i roi i ni (rheolwr y data) mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant.
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu unrhyw bryd i brosesu eich data personol. Ni fyddwn ni (rheolwr y data) bellach yn prosesu eich data oni bai y gallwn ddangos bod rheswm da dros wneud hynny. Mae’n rhaid i hyn fod dros eich buddiannau, hawliau a rhyddid, neu fod ar gyfer ein hamddiffyniad o hawliau cyfreithiol.
O dan y Ddeddf mae gennych yr hawl, yn ddarostyngedig i eithriadau, i beidio â bod yn ddarostyngedig i benderfyniad pan fydd wedi’i seilio ar brosesu awtomataidd.
Cais i weld eich gwybodaeth
Rhaid i’r Cyngor ymdrechu i gydymffurfio â Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth heb oedi’n ormodol ac o fewn un mis fan bellaf i dderbyn y cais. Gallwn ymestyn yr amser i ymateb o ddau fis pellach os bydd y cais yn gymhleth neu os byddwn wedi derbyn nifer o geisiadau gan yr un unigolyn.
Bydd angen prawf hunaniaeth, prawf preswyliad parhaus / awdurdod i weithredu ar ran rhywun arall ac unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddod o hyd i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani cyn y caiff cais ei brosesu.
Cael mynediad at recordiad Teledu Cylch Cyfyng ar gyfer materion cyfreithiol
Mae gennych hawl i wneud cais i gael mynediad at recordiad Teledu Cylch Cyfyng o dan Ran 3, Pennod 3, Deddf Diogelu Data GDPR 2018.
Ni chaiff y cyhoedd wneud ceisiadau am recordiadau na gweld delweddau yn yr ystafell reoli, gan na ellir golygu recordiadau sy'n cynnwys trydydd partïon.
Fodd bynnag, os gallai recordiad helpu gyda mater cyfreithiol, gofynnwch i'r heddlu, eich cyfreithiwr neu'ch cwmni yswiriant i lenwi’r ffurflen gais hon.
Adrodd am ddata anghywir
Dylech chi ysgrifennu atom gan ddweud pa ddata sy’n anghywir. Mae’n rhaid i ni ymateb i chi o fewn 21 diwrnod.
Gwneud cwyn
Rydym yn gwneud ein gorau i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Rydym yn ystyried unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn ynglŷn â hyn yn ddifrifol iawn.
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cafodd eich data ei drin, cysylltwch â’n hadran cwynion.
Hefyd gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Am faint rydym yn cadw eich data personol
Ni fyddwn yn cadw eich data personol yn hwy nag sydd ei angen. Y Polisi Cadw Data yn dweud wrthym am ba mor hir y cawn gadw gwybodaeth bersonol.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.