O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Panel y Dinasyddion
Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys grŵp o bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ymgynghorir yn rheolaidd â hwy am y gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan y cyngor.
Gall aelodau’r panel dderbyn hyd at dri arolwg y flwyddyn ar amrywiaeth o bynciau, gwasanaethau a materion, yn ogystal â derbyn cylchlythyrau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.
Mae canlyniadau'r arolwg yn cael eu dadansoddi gan y tîm ymgynghori sy'n creu adroddiad yn tynnu sylw at y canfyddiadau allweddol. Mae pob ymateb a dderbynnir yn cael ei gynnwys ac mae’r adroddiad yn cael ei anfon at y gwasanaethau perthnasol i ystyried y canfyddiadau allweddol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i'w helpu i gynllunio, cyflwyno ac adolygu gwasanaethau lleol.
Manteision bod yn rhan o’r Panel Dinasyddion:
- Rhoddir gwybod i aelodau'r panel pan fydd y cyngor yn cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ffurfiol o'r diwrnod cyntaf maent yn mynd yn fyw.
- Yn ystod ymgynghoriadau cyhoeddus gwahoddir aelodau'r panel i fynychu digwyddiadau lle gallant drafod eu syniadau a'u pryderon gyda swyddogion gwasanaeth, aelodau’r cabinet a’r adrannau.
- Caiff eich ymatebion eu dadansoddi a'u cynnwys mewn adroddiadau ymgynghori i'w hadolygu.
- Mae’n sicrhau bod lleisiau niferus Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu clywed, eu hystyried a'u hintegreiddio mewn arferion bob dydd a datblygiadau yn y dyfodol.

Mae’r Panel Dinasyddion yn cael ei weithredu gan y tîm Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, sy’n cydlynu ymgynghoriadau’r cyngor.
Ymuno â’r Panel Dinasyddion
Mae dod yn aelod o’r panel yn hawdd - gall unrhyw un dros 16 oed sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymuno.
Byddem yn annog aelodau iau yn benodol i ddweud eu dweud ar lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae sawl ffordd o ymuno: