Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Ymgynghoriad: Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n adolygu ein Datganiad o Bolisi Trwyddedu mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003.
Nod y datganiad o bolisi trwyddedu yw sicrhau diogelwch y cyhoedd, diogelu plant rhag niwed, atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anhrefn wrth annog diwydiant hamdden ac adloniant cynaliadwy.
Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu sy'n nodi'r amrywiol ffactorau y byddan nhw'n eu hystyried wrth weinyddu a phenderfynu ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf mewn perthynas â hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu.
Mae'r Cyngor yn cydnabod disgwyliadau trigolion lleol ar gyfer amgylchedd diogel ac iach i fyw a gweithio ynddo, a'r angen i ddarparu cyfleusterau adloniant, lletygarwch a hamdden diogel sy'n cael eu cynnal yn dda ledled y Fwrdeistref Sirol.
Dweud eich dweud
Os hoffech wneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r Polisi a'r Asesiad drafft, e-bostiwch nhw i licensing@bridgend.gov.uk heb fod yn hwyrach na 8 Medi 2025.