Ymgynghoriad Ysgolion Cynradd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau ar gynnig a allai ddarparu cyfleusterau addysgol modern newydd yng ngorllewin y fwrdeistref sirol.

Mae'r cynnig yn cynnwys sefydlu ysgol newydd ym Mhlas Morlais yn lle Ysgol Gynradd Corneli ac Ysgol Gynradd Afon y Felin o 1 Medi 2023 ymlaen.

Mae'r cynnig hefyd yn amlinellu sut gallai Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg Y Ferch O'r Sgêr ennill adeiladau newydd ac ehangu i safle presennol Ysgol Gynradd Corneli o 2 Medi 2024 ymlaen.

Sylwer na fydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiad i'r cynigion. Dim ond yn ystod y cyfnod rhybudd cyhoeddus y gellir cofrestru gwrthwynebiad.

Chwilio A i Y

Back to top