Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Ymgynghoriad Ysgol Gynradd Tremaen
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Cynnig yw hwn i sefydlu darpariaeth ar gyfer disgyblion yn Ysgol Gynradd Tremaen i ddiwallu anghenion disgyblion sydd â diagnosis o anhwylderau’r sbectrwm awtistig; cynigir sefydlu dosbarth adnoddau dysgu ar gyfer uchafswm o wyth disgybl.
Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau staff, rhieni, disgyblion, partïon sydd â diddordeb a’r corff llywodraethu yng ngham cyntaf y broses statudol. Os cefnogir y cynigion, byddent yn dod yn weithredol ar 1 Medi 2022.