O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Ymgynghoriad ar y Drafft Cynllun Llesiant
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Mae Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf Morgannwg wedi creu Drafft Cynllun Llesiant ar gyfer ardal gyfan Cwm Taf Morgannwg gan gynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae llesiant yn ymwneud ag ansawdd bywyd, a chysylltiad hynny â’r amgylchedd, yr economi, y gwasanaethau sydd eu hangen arnom a’r diwylliant rydym yn ei rannu.
Daeth yr Asesiad Llesiant â gwybodaeth genedlaethol a lleol ynghyd, gan gynnwys canfyddiadau o ymgysylltu â phobl sydd wedi rhoi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i ni nad oes gan bob cymuned fynediad teg at gyfleoedd, a bod ganddynt heriau unigol sy’n cael effaith ar eu llesiant.
Mae’r drafft Cynllun Llesiant yn amlinellu sut y byddwn yn cydweithio i gyflawni hyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â: