O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Ymgynghoriad man agored ar gyfer Glannau Porthcawl
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Mae’r ymgynghoriad man agored ar gyfer Glannau Porthcawl yn gyfle i fusnesau a phreswylwyr fynegi barn ar gynigion ar gyfer y lleoliad, naill ai ar-lein neu drwy fynd i sesiynau galw heibio, lle bydd byrddau arddangos a staff y gwasanaeth adfywio yno i helpu.
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i wrando ac ymateb i farn preswylwyr, ac yn awyddus i roi cyfle i bobl leol gyfrannu at wneud penderfyniadau.
Rhan allweddol o hyn yw cael adborth ar yr opsiynau posibl a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad man agored.