Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Ymgynghoriad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft 2022-32
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Y nod yw cael sylwadau gan breswylwyr, ein gweithlu, aelodau etholedig a rhanddeiliaid ar y CSCA arfaethedig ar gyfer 2022-32.
Caiff canlyniadau’r ymgynghoriad hwn eu defnyddio i baratoi’r CSCA terfynol a fydd yn cael ei roi ar waith ym mis Medi 2022.
Amcanion Cynllun drafft Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA)
- Amcan un: Nifer gynyddol o blant meithrin/tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Amcan dau: Nifer gynyddol o blant oedran derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Amcan tri: Nifer gynyddol o blant yn parhau i wella’u sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o’u haddysg statudol i’r llall
- Amcan pedwar: Nifer gynyddol o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster a gaiff ei asesu yn y Gymraeg (y pwnc) a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg
- Amcan pump: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
- Amcan chwech: Cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) (yn unol â’r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
- Amcan saith: Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy’n gallu dysgu Cymraeg (y pwnc) ac yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg