Ymgynghoriad Strategaeth Creu Lleoedd Canol Tref Porthcawl

Rydym yn chwilio am drigolion a busnesau ym Mhorthcawl i rannu eu barn a’u syniadau ynglŷn â sut all canol y dref ddatblygu, ffynnu a mwynhau dyfodol llewyrchus.

Bydd y safbwyntiau a’r syniadau a gesglir yn cael eu dadansoddi’n ofalus ac yn cael eu defnyddio i ddatblygu Strategaeth Creu Lleoedd Canol y Dref Porthcawl.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i wrando ac ymateb i farn preswylwyr, ac yn awyddus i roi cyfle i bobl leol gyfrannu at wneud penderfyniadau.

Rhan allweddol o hyn yw cael adborth ar yr opsiynau posibl a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad creu lleoedd canol y dref.

Chwilio A i Y

Back to top