Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Ebrill 2024 Dileu hidlydd

Cynllun arloesol yn sicrhau dechrau iach mewn bywyd ar gyfer plant cyn oed ysgol

Dydd Llun 15 Ebrill 2024

Mae 37 o leoliadau cyn oed ysgol ar hyd a lled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd rhan yn y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy sy'n helpu i hyrwyddo ymddygiadau iechyd positif o oedran ifanc.

Darpariaeth Gofal Plant Dechrau’n Deg yn Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi derbyn pedair sgôr ‘rhagorol’ mewn arolwg diweddar.

Dydd Gwener 12 Ebrill 2024

Yn un o bump sefydliad Dechrau’n Deg sydd ar gael i rieni yn ardal Mynydd Cynffig a'r Pîl, mae’r ddarpariaeth gofal plant yn Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi ennill pedair sgôr ragorol yn eu harolwg Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).

Cadarnhau rownd newydd o waith uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer ardaloedd chwarae plant

Dydd Iau 11 Ebrill 2024

Mae Sutcliffe Play (South West) a Play and Leisure Ltd wedi’u penodi fel y prif gontractwyr ar gyfer y gwaith, gyda’r uwchraddiadau cyntaf yn dechrau ddydd Llun 15 Ebrill yng Nghaeau Chwarae Newbridge, Pen-y-bont ar Ogwr.

Galw ar y cyhoedd i ddweud eu dweud ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i drafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol a’r coleg

Dydd Iau 11 Ebrill 2024

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau trafnidiaeth cartref i'r ysgol neu goleg y mae disgwyl iddynt gyflawni dros £1 miliwn o arbedion cyllidebol i’r awdurdod lleol.

Cyllid ar gyfer gardd goedwig fwytadwy yn y Pîl

Dydd Iau 11 Ebrill 2024

Wedi’i ariannu gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Bartneriaeth Natur Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, mae disgwyl i Gyngor Cymunedol y Pîl dderbyn £50k i drawsnewid tir diffaith a oedd unwaith yn gyrtiau tennis yn ardd goedwig fwytadwy.

Gwaith hanfodol i linellau ffôn a gwasanaethau ar-lein y cyngor

Dydd Mercher 10 Ebrill 2024

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni fydd llinellau ffôn a gwefan y cyngor ar gael dros dro y penwythnos yma (12 - 14 Ebrill 2024), gan ddechrau am 4pm ddydd Gwener yma.

Contractwr wedi’i benodi ar gyfer Cynllun Insiwleiddio Wal Caerau

Dydd Mercher 10 Ebrill 2024

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi penodi Warmworks fel y prif gontractwr ar gyfer gwaith adfer wal Caerau yn dilyn proses gaffael drylwyr.

Glanhau cymunedol ar y safle tipio anghyfreithlon yn y Pîl

Dydd Mercher 03 Ebrill 2024

Yr wythnos ddiwethaf, Lôn Ffald yn y Pîl oedd canolbwynt glanhau cymunedol mewn ymgais i glirio gwastraff sydd wedi ei adael yn yr ardal, gan greu ardal brafiach i drigolion.

Chwilio A i Y

Back to top