Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Rhagfyr 2024 Dileu hidlydd

Tŷ Ewenni gyda’r Cynghorydd Richard Williams, y Cynghorydd Melanie Evans a’r Cynghorydd Martyn Jones

Adnewyddiadau yn Ysgol Gyfun Pencoed yn derbyn cymeradwyaeth ardderchog gan ddisgyblion

Dydd Gwener 20 Rhagfyr 2024

Yn gynharach eleni, cwblhawyd adnewyddiadau i gyfleusterau Ysgol Gyfun Pencoed ar gyfer ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ynghyd ag adeiladu Canolfan Bêl-rwyd Pencoed ar y safle, sy’n cynnwys dau gwrt pêl-rwyd newydd ar gyfer yr ysgol, a defnydd cymunedol.

Y Cyngor a phartneriaid yn cadarnhau trefniadau’r Nadolig

Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024

Atgoffir preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd newidiadau i rai gwasanaethau a gynigir gan y cyngor a’i bartneriaid dros y gwyliau Nadolig sydd i ddod.

Gwaith tîm: Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick, Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Heather Griffiths gyda phartneriaid o Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Halo Leisure a Choleg Penybont yn y llun gyda Craig Hopkins o Eglwys y Tabernacl, Bracla.

Y cyngor yn diolch i'r cyhoedd am yr 'ymateb anhygoel' i Apêl Siôn Corn eleni!

Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024

Diolch i ymateb ysgubol gan aelodau'r cyhoedd a haelioni grwpiau, eglwysi a busnesau lleol, mae Apêl Siôn Corn 2024 wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl!

Y cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Diogelu Corfforaethol blynyddol

Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024

Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr adroddiad Diogelu Corfforaethol 2023 - 2024, sy’n amlinellu’r ddarpariaeth ddiogelu eang a gynigir y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â sut mae oedolion a phlant bregus yn parhau i gael eu cefnogi ar draws bob cyfarwyddiaeth, gan gynnig dull ‘un cyngor’ i ddiogelu.

Disgyblion Ysgol Gynradd Newton yn rowndiau terfynol Llundain ar gyfer ‘Cân yr Ysgol DU 2024’

Ysgol Gynradd Newton yn cyrraedd rowndiau terfynol Llundain ar gyfer ‘Cân yr Ysgol DU 2024’

Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024

Yn gynharach eleni, cyfansoddodd disgyblion Ysgol Gynradd Newton, Porthcawl, eu cân wreiddiol eu hunain, a mynd i Lundain i gynrychioli Cymru a pherfformio yn rowndiau terfynol ‘Cân yr Ysgol DU 2024’, ar ôl cael eu rhoi ar y rhestr fer yn dilyn dros fil o geisiadau.

(o’r chwith i’r dde): Tom Sloane, Swyddog Rygbi Cymunedol y Gweilch, PCSO Steve Bowen, Nick White, Rheolwr Sefydliad Gweilch yn y Gymuned, Gemma Shore, Uwch Weithiwr Datblygu (BYS - Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr), Sarsiant Dan Parry, PCSO Jesci Hare, a Tanya Hillman, Cydlynydd Ôl-16 NEET (BYS).

Dathlu prosiect ‘Tackle after Dark’ yn Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024

Tynnwyd sylw at brosiect arloesol sydd â’r nod o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y fwrdeistref sirol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2024 ar y 28ain o Dachwedd. Enillodd y cynllun ‘Tackle after Dark’, prosiect ar y cyd rhwng adran Cymorth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru (HDC), a gefnogir gan Gweilch yn y Gymuned, y wobr ‘Partneriaethau’ yn y seremoni.

Gwaith clirio sylweddol ar y gweill ledled y fwrdeistref sirol o ganlyniad i effeithiau Storm Darragh

Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024

Mae gwaith clirio sylweddol ar y gweill ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn y difrod sylweddol a’r amhariad a achoswyd gan Storm Darragh dros y penwythnos.

Ysgol Gynradd Gatholig St Robert yn derbyn canmoliaeth am greu diwylliant meddylgar a chynhwysol

Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024

Yn ystod arolwg Estyn yn gynharach eleni, cafodd nifer o gryfderau Ysgol Gynradd Gatholig St Robert eu cydnabod, ac yn arbennig felly ei diwylliant cynhwysol a’i gallu i feithrin ymdeimlad cadarn o berthyn ymysg ei dysgwyr.

Llwyddiant yn codi arian ar gyfer 'Gwobrau Cyflawniad Plant a Phobl Ifanc'

Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024

Cafodd Gwobrau Cyflawniad Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr eu cynnal ddydd Llun 28 Hydref yn Academi STEAM, Coleg Penybont, Pencoed.

Bydd Storm Darragh yn taro Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont at Ogwr yn yr oriau mân

Dydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024

Yn dilyn rhybudd ddoe ynghylch tywydd garw yn taro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn. Mae’r Met Office nawr wedi uwchraddio ei rybudd tywydd Melyn ar gyfer ‘gwyntoedd cryfion’ i Goch ar gyfer ‘gwyntoedd mawr’ ac Ambr ar gyfer glaw trwm.

Chwilio A i Y

Back to top