Cyfarfod cyhoeddus i dynnu sylw at gam nesaf gwaith pont Melin Ifan Ddu
Dydd Gwener 23 Hydref 2026
Mae cyfarfod cyhoeddus wedi'i drefnu i roi gwybod i breswylwyr Cwm Ogwr am y ffordd y bydd y gwaith o ailosod pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu yn cael ei wneud.
Cynhelir y cyfarfod am 5.30pm ddydd Mercher 28 Hydref yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymunedol Melin Ifan Ddu, a bydd yn esbonio sut bydd y gwaith yn cael ei wneud a'i raddio i gadw’r anghyfleustra mor isel â phosibl.
Bydd hefyd yn tynnu sylw at yr amserlen ar gyfer y gwaith, beth yw'r cynlluniau rheoli traffig, pa fesurau sydd wedi'u cytuno gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus a mwy.
Mae'r Cynghorydd Gary Haines a'r Cynghorydd Eugene Caparros, sy'n rhannu rôl yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu hyd at £3.5m tuag at gost y gwaith, ac y bydd yn cynnwys proses beirianneg gymhleth.
"Mae Centregreat Limited wedi'i benodi fel y contractwr ar gyfer y prosiect sylweddol hwn, fydd yn gofyn am ailosod prif ddec y bont yn ei gyfanrwydd. "Mae hyn oherwydd bod archwiliadau arferol wedi canfod nifer o broblemau yn y strwythur presennol, gan gynnwys craciau sylweddol o fewn dec y bont, ac ailosod yw'r unig opsiwn diogel, ymarferol ar gyfer cadw'r llwybr hanfodol hwn ar agor."
"Ar hyn o bryd mae'r contractwr yn cysylltu â nifer o sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau cyfleustodau, gan fod gwasanaethau nwy, dŵr a thelathrebu lleol yn rhedeg o dan y bont a bydd angen eu hailgyfeirio tra bod y gwaith yn mynd rhagddo. "Mae hwn yn brosiect cymhleth, ond mae'n gwbl angenrheidiol. Yr A4061 yw'r prif lwybr i mewn ac allan o Gwm Ogwr, ac unwaith bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau, bydd yn diogelu'r bont ac yn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn ddiogel i'w defnyddio am genedlaethau i ddod."
Mae rhestr o gwestiynau cyffredin am ailosod pont afon Melin Ifan Ddu hefyd ar gael ar wefan y cyngor.