Cynllun newydd i adfer cartrefi gwag i’w hailddefnyddio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
Dydd Iau 23 Hydref 2025
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi amlinellu Strategaeth Cartrefi Gwag newydd i leihau nifer yr eiddo preswyl sydd wedi bod yn wag ers amser hir a'u hadfer i’w hailddefnyddio.
Mae'r strategaeth ar gyfer 2025-2030 bellach wedi'i chymeradwyo gan Gabinet y Cyngor ac fe'i lluniwyd trwy ymgynghoriad cyhoeddus gyda mewnbwn gan breswylwyr, landlordiaid a pherchnogion eiddo.
Mae'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed o dan y cynllun blaenorol ac yn canolbwyntio ar ymgysylltu cynnar, cymorth ariannol a gorfodi cryfach. Mae hefyd yn cynnwys Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag manwl, sy'n sicrhau cyflawniad trwy ddull cydlynol ar draws adrannau'r Cyngor a phartneriaid allanol.
Mae'r strategaeth hefyd yn cyfrannu at nodau ehangach y Cyngor, gan gynnwys cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, mynd i'r afael â digartrefedd, adfywio canol trefi a chefnogi gweithredu ar yr hinsawdd trwy ailddefnyddio adeiladau presennol a gwella eu hynni-effeithlonrwydd.
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro trwy adolygiadau blynyddol, gydag asesiad llawn wedi'i gynllunio ar gyfer 2030 i sicrhau bod y strategaeth yn parhau i fod yn effeithiol ac yn ymatebol i anghenion lleol.
"Mae'r strategaeth newydd hon yn amlinellu cynllun clir i adfer mwy o gartrefi i’w hailddefnyddio, cefnogi adfywio a gwneud y defnydd gorau o'n tai presennol. Mae hefyd yn cefnogi ein nodau hinsawdd trwy hyrwyddo ailddefnyddio adeiladau a gwella ynni-effeithlonrwydd. "Mae cynnydd cyson wedi'i wneud gyda mwy na 230 o gartrefi gwag wedi'u hadfer i’w hailddefnyddio ers 2021/22 ac yn 2024/25 yn unig cynhaliwyd dros 300 o ymweliadau safle, cyhoeddwyd 16 o hysbysiadau gorfodi a chwblhawyd 3 erlyniad. "Byddwn yn annog unrhyw un sy'n berchen ar eiddo preswyl gwag i wneud y gorau o'r cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i helpu i adfer eu heiddo i’w ailddefnyddio."
Mae rhagor o wybodaeth am gymorth cartrefi gwag ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/tai/eiddo-gwag/
