Os ydych yn tanysgirifio i’n gwasanaeth aillgylchu gwastraff gardd, nodwch y bydd casgliadau’r tymor hwn yn dod i ben ddydd Gwener 14 Tachwedd. Diolch am ailgylchu eich dail, glaswellt, planhigion, chwyn a thoriadau gwrychoedd - Casgliadau gwastraff gardd
Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2026
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025
Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach ar agor, ac mae cymunedau lleol yn cael eu hannog i enwebu preswylwyr, grwpiau neu sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gwobrau'n gyfle blynyddol i ddathlu amrywiaeth o gyflawniadau gwahanol ac mae'r enillwyr blaenorol yn cynnwys Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr sy'n ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc drwy gerddoriaeth, trydanwr sydd wedi rhoi ei amser a'i arbenigedd am ddim i osod diffibrilwyr ar draws Cwm Llynfi a gwirfoddolwr clwb ieuenctid ymroddedig sy'n sicrhau bod gan bobl ifanc bob amser le diogel a chroesawgar i ymweld ag e.
Rhaid i enwebeion fyw neu weithio'n lleol a dangos y math o werthoedd sy'n gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn wych. Efallai eu bod nhw wedi:
• Codi swm aruthrol ar gyfer elusen
• Cyflawni gweithred o ddewrder mawr
• Mynd yr ail filltir ar gyfer eraill yn rheolaidd
• Rhoi'r ardal leol ar y map
• Cyflawni rhywbeth arbennig iawn dros y 18 mis diwethaf
"Mae Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer yn gyfle i daflu goleuni ar y bobl anhygoel sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau. "Bob blwyddyn, rydyn ni'n clywed straeon ysbrydoledig o garedigrwydd, ymroddiad a dewrder o bob rhan o'r fwrdeistref sirol ac mae bob amser yn wych clywed am y cyfraniadau anhunanol mae pobl neu grwpiau lleol yn eu gwneud i helpu eraill. "Byddwn i’n annog pawb i dreulio ychydig eiliadau yn enwebu rhywun sy'n haeddu cydnabyddiaeth. P'un a yw'n arwr anhysbys sy'n gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni neu grŵp sydd wedi cael effaith fawr yn lleol, y gwobrau hyn yw ein ffordd ni o ddweud diolch."
Mae rhagor o wybodaeth am sut i enwebu ar gael ar wefan y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys yr opsiwn o lenwi ffurflen ar-lein, gan e-bostio ffurflen enwebu i mayor@bridgend.gov.uk neu drwy'r post i Parlwr y Maer, Enwebiad Gwobr Dinasyddiaeth y Maer, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB
Sylwch mai dim ond am gyflawniadau newydd y gellir enwebu enillwyr y gorffennol a rhaid i bobl a enwebwyd am waith cyflogedig fod wedi gwneud gwaith eithriadol y tu hwnt i ddisgwyliadau eu swydd.
Dyddiad cau ar gyfer enwebu: 16 Ionawr 2026