Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27

Dydd Iau 01 Hydref 2026

Gwahoddir trigolion i enwebu'r bobl, y grwpiau a'r sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27. 

Mae'r gwobrau'n cydnabod cyfraniad eithriadol pobl leol a grwpiau cymunedol sy'n rhoi o’u hamser, eu hegni a'u doniau i helpu eraill, cryfhau eu cymunedau a gwneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwell i fyw ynddo. 

O wirfoddolwyr a chodwyr arian i bencampwyr cymunedol, arweinwyr chwaraeon, grwpiau amgylcheddol, busnesau, pobl ifanc a'r rheini sy'n cefnogi eraill y tu ôl i'r llenni, mae Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer yn dathlu'r ffyrdd niferus a gwahanol y mae pobl yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 20 Tachwedd 2026. Mae rhagor o wybodaeth am sut i enwebu ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.penybontarogwr.gov.uk/cyngor/cyngor-a-democratiaeth/maer-bwrdeistref-sirol-pen-y-bont-ar-ogwr/gwobrau-dinasyddiaeth-y-maer/

I gael ychydig o ysbrydoliaeth, cymerwch gip ar enillwyr 2025/26: 

Cymdeithas Hanes Y Cefn Gwyrdd 
Ers mwy na 40 mlynedd, mae Y Cefn Gwyrdd wedi gweithio i warchod Gwaith Haearn Bedford a Chaban Signalau Cyffordd Cefn, gan gefnogi gwaith archaeolegol, cadwraethol ac addysgol. Mae ei gwaith i wella mynediad a dehongli dwyieithog yn helpu mwy o bobl i ddarganfod treftadaeth ddiwydiannol yr ardal. 

Aspen Wolf Jones 
Mae Aspen wedi dangos ymrwymiad eithriadol i godi arian ar gyfer achosion gan gynnwys Diwydiannau’r Lleng Brydeinig Frenhinol, Elusen Ysbyty Plant Arch Noa, a Chymorth Canser Macmillan. Mae hefyd yn gwirfoddoli mewn digwyddiadau glanhau traethau, gan ddangos ei ymrwymiad i'r gymuned a'r amgylchedd.

RNLI Porthcawl 
Mae'r criw gwirfoddol yng Ngorsaf Bad Achub Porthcawl yn darparu gwasanaeth chwilio ac achub brys, ddydd a nos, ar hyd darn heriol o Fôr Hafren. Mae eu gwobr yn cydnabod eu hymroddiad a'u parodrwydd i helpu pobl sydd mewn perygl ar y môr ac ar hyd yr arfordir.

Gardd Farchnad Caerau – Christopher Cook, Leslie Furnell a Jean Furnell 
Mae Christopher, Leslie a Jean wedi neilltuo eu hamser a'u hadnoddau i gynnal gardd gymunedol groesawgar. Mae eu gwaith tîm wedi creu gofod sy'n dod â phobl ynghyd, yn cefnogi lles, ac sydd wedi ennill cydnabyddiaeth y Faner Werdd ers dros ddegawd. 

Venetia Steele Boutique – Nicola Venetia Steele
Cafodd Nicola ei chydnabod am gefnogi elusennau, hyrwyddo busnesau lleol a chreu digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys codi arian sylweddol ar gyfer Hope Rescue. Drwy ei busnes a'i gwaith ehangach yn y gymuned, mae'n ceisio annog a chefnogi eraill yn gyson.

Clwb Hen Gerbydau Sir Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'r clwb yn dod â phobl ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd trwy ei daith flynyddol o dractorau a cherbydau 4x4 adeg y Nadolig, gan ledaenu llawenydd wrth godi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau lleol. Mae aelodau'n gwirfoddoli eu hamser ac yn talu costau addurno cerbydau eu hunain. 

Grŵp Gofal Afon Llynfi a'r Amgylchedd 
Mae'r grŵp gwirfoddol ymroddedig hwn yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i ddiogelu Cwm Llynfi, afonydd a bywyd gwyllt trwy fynd i'r afael â sbwriel, plastigau a microplastigau. Mae tua 30 o wirfoddolwyr, rhwng 14 a 96 oed, yn rhoi o’u hamser yn rheolaidd i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Linda Webb 
Mae Linda wedi gwirfoddoli gyda Brownies y Llidiart ers dros 30 mlynedd, gan roi o’u hamser bob wythnos er gwaethaf ymrwymiadau teuluol. Mae hi'n cefnogi gweithgareddau, teithiau a phenwythnosau i ffwrdd, gan helpu i sicrhau bod yr uned yn parhau i ddarparu cyfleoedd i'w haelodau. 

Robert Doyle 
Mae Rob wedi gwneud cyfraniad eang i Gwm Llynfi drwy brosiectau cerddoriaeth, codi arian, hanes lleol, treftadaeth a chymunedol, gan gynnwys Maesteg 200 a chynlluniau ar gyfer canolfan dreftadaeth. Mae hefyd yn cefnogi'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ysgolion lleol ac achosion elusennol. 

Michael Flanagan 
Mae Michael wedi neilltuo blynyddoedd i helpu eraill trwy Ambiwlans Sant Ioan, codi arian, llywodraethu ysgolion a gwirfoddoli cymunedol. Yn swyddog tân sydd bellach wedi ymddeol, mae'n parhau i roi o’i amser yn hael, ac yn cael ei gydnabod am roi eraill yn gyntaf yn gyson. 

The Welsh Honey Company – Dafydd Pett 
Ymgymerodd Dafydd â busnes cadw gwenyn ei deulu yn ifanc, a'i ddatblygu'n fenter fodern ffyniannus. Mae'n hyrwyddo cadw gwenyn ymhlith cenedlaethau iau, yn cefnogi darpar wenynwyr, ac yn cyfrannu at yr ecosystem leol trwy ei waith. 

Mr a Mrs Masson 
Ers blynyddoedd lawer, mae Mr a Mrs Masson wedi cefnogi elusennau lleol a mentrau cymunedol, gan gynnig amser, tosturi a chymorth ymarferol i'r rheini sydd mewn angen.  Mae eu prosiect diweddaraf yn darparu man cynnes croesawgar lle gall pobl gyfarfod, siarad a mwynhau lluniaeth, gan helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd.   
Viv John 
Mae Viv wedi bod yn rhan o Glwb Tennis Cwm Garw ers bron 70 mlynedd, ac mae wedi gwirfoddoli drwy hyfforddi a rhedeg y clwb ers tua 40 mlynedd. Mae ei gwaith wedi helpu cenedlaethau o bobl leol i gael mynediad at dennis, magu hyder a meithrin cyfeillgarwch, a mwynhau cyfleuster cymunedol gwerthfawr. 

CHILL – Cancer Help In Local Lives 
Mae CHILL, a sefydlwyd gan Julie Grabham a Mark Newbold, yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ganser trwy gysylltiad, dealltwriaeth, pecynnau gofal a chymorth ymarferol. Er gwaethaf heriau personol dwys, mae Julie a'r gymuned ehangach wedi parhau i dyfu'r grŵp i fod yn achubiaeth emosiynol i bobl ledled yr ardal. 

Rosie Morgan 
Cafodd Rosie ei chydnabod am ei gwaith fel llysgennad gwirfoddol ar gyfer Sefydliad Aren Cymru, gan gynnwys rhoi aren i'w ffrind gorau a rhannu ei phrofiad i godi ymwybyddiaeth o iechyd yr arennau. Yn y flwyddyn flaenorol, cymerodd ran mewn 22 o gyfleoedd gwirfoddoli a chyrhaeddodd tua 800 o bobl ledled Cymru.  

Ed Wilkins – Clwb Tennis, Sboncen a Bowlio Pen-y-bont ar Ogwr
Arweiniodd Ed y gwaith o drawsnewid Clwb Tennis, Sboncen a Bowlio Pen-y-bont ar Ogwr o sefydliad oedd yn ei chael hi'n anodd i fod yn gyfleuster cymunedol ffyniannus. Gwnaeth ei waith gydag aelodau, gwirfoddolwyr a phartneriaid gryfhau'r clwb, gwella cyfleusterau a'i helpu i ennill Gwobr Clwb y Flwyddyn Tennis Cymru yn 2022. 

Staff a Rhieni – Ysgol Gynradd Trelales 
Ymatebodd staff a rhieni'r ysgol yn gyflym pan gwympodd contractwr yn Ysgol Gynradd Trelales, gan weinyddu adfywio cardio-pwlmonaidd a defnyddio diffibriliwr cyn i barafeddygon gyrraedd. Ysbrydolodd eu hymateb digynnwrf ddarpariaeth a hyfforddiant diffibriliwr pellach ar draws y fwrdeistref sirol.

Carl Rawes 
Mae Carl wedi codi symiau sylweddol ar gyfer elusennau trwy heriau cerdded a heicio anodd wrth ddod â phobl ynghyd trwy deithiau cerdded grŵp wedi'u trefnu. Yn 2025 yn unig, cododd £21,000 ar gyfer amrywiaeth o elusennau, gan gyfuno codi arian ag ymrwymiad i gymuned a lles.

Kathryn a Mark Blight – Corau Ieuenctid Da Capo a Crescendo  
Mae Kathryn a Mark wedi gwneud cyfraniad hirsefydlog i gerddoriaeth ieuenctid, gan feithrin cantorion ifanc trwy Gorau Ieuenctid Da Capo a Crescendo. Mae eu gwaith gwirfoddol yn magu hyder, gwytnwch a sgiliau cerddorol wrth godi proffil diwylliannol Pen-y-bont ar Ogwr a chreu cyfleoedd ledled Cymru a thu hwnt. 

Gianni Taylor a Sharron Fisher – Sgowtiaid Pen-y-fai 
Mae Gianni a Sharron yn gwirfoddoli ochr yn ochr â swyddi amser llawn ac ymrwymiadau teuluol, gan gefnogi gweithgareddau wythnosol, gwersylloedd, teithiau cerdded a digwyddiadau sy'n rhoi sgiliau bywyd gwerthfawr i bobl ifanc. Gwnaethon nhw drefnu taith wersylla ryngwladol gyntaf Sgowtiaid Pen-y-fai yn Awstria, a helpu i godi arian i'w gwneud yn bosib.

Steve Tallis – RAW Performance
Sefydlodd Steve RAW Performance fel Cwmni Buddiannau Cymunedol gan ddarparu sesiynau ffitrwydd cynhwysol am ddim mewn mannau cyhoeddus. Mae'n helpu pobl i wella eu lles corfforol a meddyliol waeth beth fo'u hincwm, oedran neu lefel ffitrwydd, wrth wirfoddoli i sicrhau cyllid, mentora eraill a datblygu'r sefydliad. 

Morgan Pritchard – Family Breakfast y Pîl
Mae Morgan, un o'r gwirfoddolwyr ieuengaf yn Family Breakfast y Pîl, wedi dangos menter drwy helpu'r pantri cymunedol a mynd i'r afael â thlodi bwyd. Mae'n casglu, pacio a dosbarthu bwyd i deuluoedd, yn rheoli stoc ac yn helpu'r prosiect i redeg yn effeithiol. 

Ceri Joseph 
Mae gwirfoddoli helaeth Ceri wedi helpu i wneud Amgueddfa Porthcawl yn hyb cymunedol bywiog a hygyrch, gan warchod a rhannu hanes lleol. Mae hi hefyd yn cefnogi digwyddiadau cymunedol, yn llunio cylchlythyrau, yn trefnu siaradwyr gwadd, ac wedi ysgrifennu llyfr yn dathlu siarter 200 mlwydd oed y dref. 

Steve Lovell a Lee Farmer 
Sefydlodd y cyn-filwyr Steve a Lee glwb brecwast yn ystod pandemig COVID-19 i ddarparu cyfeillgarwch a chefnogaeth i gyn-filwyr. Mae wedi tyfu i bron 200 o aelodau, ac mae'n trefnu digwyddiadau a theithiau, yn cefnogi elusennau milwrol ac yn darparu cymorth ymarferol a chyfeillgarwch i gymuned y Lluoedd Arfog.

Justin Hostettler-Davies 
Mae Justin wedi dod â'r gymuned ynghyd trwy ymgyrchoedd codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer clefyd niwronau echddygol er cof am ffrind. Mae ei heriau yn cynnwys dringo Kilimanjaro, cerdded ar hyd y DU a beicio o Baris i Ben-y-bont ar Ogwr, ochr yn ochr â gweithgareddau cymunedol gyda Chlwb Rygbi Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr. 

Grŵp Codi Arian Marie Curie Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl 
Mae'r tîm ymroddedig hwn yn trefnu casgliadau, digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau codi arian sy'n cefnogi gwasanaethau lleol Marie Curie. Mae ei De Prynhawn blynyddol wedi codi dros £1,000 bob blwyddyn ers pum mlynedd, wrth i gyfanswm yr arian a godwyd ddod yn agos at £250,000. 

Phillip Richards 
Mae Phillip wedi gwirfoddoli gyda changen Pen-y-bont ar Ogwr o'r Samariaid ers bron 50 mlynedd, gan gynnig clust dawel, ofalgar a sylwgar i alwyr yn ystod adegau anodd. Mae ei hirhoedledd, ei ddibynadwyedd a'i ymroddiad eithriadol wedi ei wneud yn un o wirfoddolwyr hwyaf y gangen. 

Enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27
Enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27
Enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27
Enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27
Enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27
Enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27
Enillwyr Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2026/27

Chwilio A i Y

Back to top