Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Penodi contractwr lleol ar gyfer gwaith Pont Melin Ifan Ddu
Dydd Mercher 02 Medi 2026
Mae disodli pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu wedi symud gam yn nes yn dilyn penodi contractwr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn dilyn proses gaffael lawn, bydd y cwmni lleol Centregreat Limited yn cyflawni'r prosiect, fydd yn arwain at ddisodli prif ddec y bont yn llwyr.
Canfu archwiliadau fel mater o drefn graciau sylweddol ar ddec y bont yn flaenorol, yn ogystal â phroblemau pellach o dan y bont, a’i hamnewid yw'r unig opsiwn ymarferol i gadw'r llwybr yn ddiogel ac ar agor i genedlaethau'r dyfodol.
Mae'r cyngor wedi sicrhau £3.5 miliwn o gyllid trafnidiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru tuag at y prosiect ac mae hefyd yn gweithio i sicrhau cyllid pellach.
Mae rhaglen waith bellach yn cael ei chytuno gyda Centregreat yn ogystal â sefydliadau perthnasol eraill. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chwmnïau cyfleustodau gan fod gwasanaethau nwy, dŵr a thelathrebu lleol yn rhedeg o dan y bont.
Mae'r Cynghorydd Gary Haines a'r Cynghorydd Eugene Caparros, sy'n rhannu rôl yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, ill dau wedi croesawu'r newyddion cadarnhaol.
"Mae penodi contractwr yn gam pwysig ymlaen yn ein cynlluniau i ddisodli dec pont Melin Ifan Ddu ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith, o ystyried mai'r A4061 yw'r unig lwybr i mewn ac allan o Gwm Ogwr. "Mae hwn yn brosiect cymhleth ond rydym yn gweithio'n agos gyda Centregreat, y cwmnïau cyfleustodau priodol a sefydliadau eraill i symud y prosiect ymlaen cyn gynted â phosibl."
"Byddwn hefyd yn sicrhau bod y contractwr a'r cyngor yn cwrdd â phreswylwyr lleol, busnesau, defnyddwyr priffyrdd a darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus/ysgol i drafod unrhyw effeithiau'r gwaith yn yr ardal a darparu cyngor ac ystyriaethau priodol. "Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd wrth i'r rhaglen gael ei datblygu. Ein nod yw tarfu cyn lleied â phosibl a chwblhau'r gwaith mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl."
Mae rhestr o gwestiynau cyffredin hefyd ar gael ar wefan y cyngor.