Rhagolwg cadarnhaol ar gyfer dilyniant busnes ffenestri ar ôl derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor

Dydd Llun 14 Medi 2026

Mae busnes ffenestri lleol sydd wedi symud ei safle i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar wedi derbyn cyllid a chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Futureglaze Windows Ltd yn fusnes teuluol sydd wedi bod yn gweithredu ers 1988, gan gyflenwi a gosod ystod eang o ffenestri a drysau uPVC ac alwminiwm. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaethau i osod systemau gwteri ac estyll ffasgia ac yn cynnig gwasanaethau atgyweirio ar gyfer ffenestri a drysau gan gwmnïau eraill yn ogystal â rhai eu hunain.

Am dros 30 mlynedd, roedd y busnes yn gweithredu yn y Rhondda o Ystâd Ddiwydiannol y Gelli, ond nid oedd ehangu bellach yn bosibl wrth i'r cwmni dyfu, gan arwain at y penderfyniad i adleoli i Ystâd Ddiwydiannol Ewenni ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dyfarnwyd Grant Datblygu Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin i'r cwmni ym mis Ionawr 2026 i gefnogi'r broses symud i'w safle newydd, gan eu galluogi i ddodrefnu'r swyddfa a'r ystafell arddangos gyda'r offer TG, y celfi a’r cyfleusterau storio angenrheidiol ar gyfer y ffatri. Mae cyfanswm o wyth swydd amser llawn wedi'u diogelu ac mae dwy rôl amser llawn wedi'u creu o ganlyniad i'r cyllid hwn.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y busnes yn y dyfodol yn cynnwys mwy o drosiant trwy ddenu mwy o gwsmeriaid i'r safle a'r ystafell arddangos newydd, gan eu galluogi i brofi eu hystod lawn o gynhyrchion yn uniongyrchol. Maen nhw hefyd yn bwriadu datblygu eu partneriaethau ag awdurdodau a sefydliadau lleol, gan gynnwys Gofal a Thrwsio (yn enwedig cangen Pen-y-bont ar Ogwr), asiantau gosod lleol, cartrefi gofal, a sectorau tebyg.

Trwy ehangu eu sylfaen gwsmeriaid a chryfhau'r perthnasoedd hyn, maen nhw’n ceisio sicrhau llif cyson o waith contract a sefydlu eu presenoldeb ymhellach yn y rhanbarth.

"Mae'r cyllid rydyn ni wedi'i gael gan y Cyngor wedi creu llawer o gyfleoedd i ni ac wedi ein galluogi i ehangu ein cyrhaeddiad trwy symud i Ben-y-bont ar Ogwr. Mae wedi bod mor ddefnyddiol i ni ac mae ein lleoliad newydd yn hawdd ei gyrraedd i'n cwsmeriaid ledled de Cymru. Rydym mor ddiolchgar am gymorth y Cyngor yn ein cynlluniau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld ble bydd Futureglaze yn mynd o fan hyn."
"Rwy'n falch iawn o glywed bod Futureglaze Windows wedi cael y cyfle cyllido hwn ac wedi gallu dod â'u pencadlys i Ben-y-bont ar Ogwr. Mae'r cymorth hwn yn enghraifft ddisglair arall o sut mae'r Cyngor wedi helpu busnesau yn y fwrdeistref sirol i ddatblygu a thyfu ymhellach. Os ydych chi'n rhedeg busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, byddwn yn eich annog i gysylltu â ni am y grantiau sydd ar gael gennym; mae digon o gymorth ar gael."

I gael gwybod mwy am ein cyllid a'n grantiau presennol, ewch i'r dudalen fusnes.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

(O'r chwith i'r dde) Y Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rebecca Dean, Rheolwr Gyfarwyddwr Futureglaze Windows, y Cynghorydd Elaine Winstanley, Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Tom Robinson, Cyfarwyddwr Futureglaze Windows ar ymweliad diweddar â'r safle ar Ystâd Ddiwydiannol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr.
(O'r chwith i'r dde) Y Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rebecca Dean, Rheolwr Gyfarwyddwr Futureglaze Windows, y Cynghorydd Elaine Winstanley, Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Tom Robinson, Cyfarwyddwr Futureglaze Windows ar ymweliad diweddar â'r safle ar Ystâd Ddiwydiannol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y

Back to top