Y Cyngor yn gweithredu ar gamddefnyddio biniau sbwriel cyhoeddus
Dydd Mawrth 01 Gorffennaf 2025
Mae trigolion yn cael eu hannog i gael gwared ar eu sbwriel mewn ffordd gyfrifol, yn dilyn cynnydd yn nifer yr adroddiadau am dipio anghyfreithlon a chamddefnyddio biniau sbwriel cyhoeddus.
Mae timau Strydoedd Glanach y cyngor wedi bod yn gweld mwy o wastraff domestig fel gweddillion bwyd a chewynnau brwnt mewn biniau cyhoeddus. Y timau hyn sy'n edrych ar ôl y 1100 o finiau sbwriel, ailgylchu, baw cŵn a barbeciw sydd gan y cyngor ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.
Mae rhagor o wybodaeth am finiau sbwriel cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael ar ein gwefan.
Gallwch roi gwybod am broblemau sbwriel drwy ein gwefan, neu drwy e-bostio cleanupthecounty@bridgend.go.uk.
Gellir rhoi gwybod am faw cŵn a thipio anghyfreithlon hefyd.
"Mae biniau sbwriel cyhoeddus ar gyfer gwaredu eitemau llai pan fo pobl i ffwrdd o’u cartrefi neu fannau gwaith, pethau fel caniau a photeli plastig a ddylen nhw ddim cael eu defnyddio i waredu gwastraff cartref. "Yn ogystal â halogi ein ffrydiau ailgylchu, gall camddefnyddio biniau sbwriel cyhoeddus ddenu plâu a chynyddu costau glanhau a chynnal a chadw strydoedd. "Dylai gwastraff y cartref naill ai gael ei gyflwyno i’ch casgliadau ailgylchu a gwastraff wrth ymyl y palmant neu fynd ag e i'ch canolfan ailgylchu leol i'w waredu'n ddiogel. "Gallai dympio eich gwastraff yn anghyfreithlon gael ei ystyried fel tipio anghyfreithlon, a all arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig neu ddirwy. "Mae ein timau Strydoedd Glanach yn gweithio'n ddiflino ac yn gwneud gwaith gwych i gadw strydoedd yn lân ac yn ddiogel yn y fwrdeistref sirol; fodd bynnag, dylai’r gymuned gyfrannu at hyn hefyd. Gallwch helpu trwy godi baw eich ci, a thrwy roi eich gwastraff yn y biniau cywir. Mae ein holl finiau sbwriel yn cael eu gwagio'n rheolaidd. Os yw'r biniau’n llawn, ewch â'ch gwastraff adref gyda chi. "Nid y cyngor sy’n gyfrifol am bob bin sbwriel yn y fwrdeistref sirol - mae rhai yn cael eu rheoli gan sefydliadau eraill fel Cymdeithasau Tai, neu Gynghorau Tref a Chymuned. Os ydych chi'n gweld bin sbwriel sydd angen ei wagio ac heb fod yn siŵr sut i roi gwybod amdano, gallwch gysylltu â cleanupthecounty@bridgend.gov.uk.”