Ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor yn dechrau a thrigolion yn cael eu hannog i ddweud eu dweud

Dydd Iau 08 Ionawr 2026

Mae ymgynghoriad blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y gyllideb yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae trigolion yn cael eu hannog i rannu eu barn ynghylch blaenoriaethau gwario’r y cyngor ym mlwyddyn ariannol 2026/2027. 

Ffocws y cynigion cyllideb ddrafft yw diogelu gwasanaethau rheng flaen, gan flaenoriaethu cymorth i'r rhai mwyaf agored i niwed, a sicrhau cynnydd net mewn cyllid i ysgolion, gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion.  Mae hyn yn golygu na fydd targedau arbed ar ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y flwyddyn nesaf. 

Mae'r cyngor yn ariannu cannoedd o wahanol wasanaethau ac mae ganddo gyfrifoldeb cyfreithiol i osod cyllideb gytbwys bob blwyddyn.  Bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei hystyried gan Gabinet y cyngor ar 13 Ionawr 2026, cyn mynd i broses graffu trawsbleidiol cyn ei chymeradwyo'n derfynol yn y Cyngor ar 25 Chwefror 2026.  

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 27 Ionawr 2026 a gall trigolion rannu eu barn drwy gwblhau arolwg ar wefan y cyngor: https://www.penybontarogwr.gov.uk/cyngor/ymgynghoriadau/   

"Roedd y setliad cyllido gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 yn well na'r disgwyl ac mae hyn wedi ein helpu i sicrhau bod cynigion y gyllideb ddrafft yn cyd-fynd yn glir â'n cynllun corfforaethol sydd â ffocws ar amcanion allweddol fel diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, helpu pobl leol i gyflawni eu potensial a chreu cymunedau ffyniannus ar gyfer trigolion a busnesau. "Mae hefyd wedi galluogi buddsoddi mewn ystod o wasanaethau sy'n bwysig i drigolion a hefyd i gefnogi’r gwaith o newid gwasanaethau i sicrhau hyfywedd ariannol tymor hirach y cyngor, er enghraifft trwy ddefnyddio technoleg ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial i yrru gwelliannau yn eu blaen."
"Fel pob awdurdod lleol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig, rydyn ni’n dal i wynebu llawer o heriau ariannol parhaus. Fodd bynnag, mae'n braf ein bod wedi derbyn cynnydd o 4.6% yng nghyllid Llywodraeth Cymru eleni ac mae hyn wedi helpu i leihau ein bwlch cyllido ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. "Roedd ein hymgyrch cyn y gyllideb yn ei gwneud hi’n amlwg i'r cyhoedd pa wasanaethau rydyn ni'n gyfrifol amdanyn nhw a’r rhai nad ydym yn gyfrifol amdanyn nhw yn ogystal â chynnwys gwybodaeth am sut mae cyfanswm ein cyllideb yn cael ei ariannu. Daw'r rhan fwyaf o'n cyllideb o Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru, gyda'r Dreth Gyngor yn cyfrif am ddim ond ryw 20% o'n cyllideb. "Hoffwn annog pob preswylydd i ddweud eu dweud ac mae'n braf hefyd bod grwpiau ffocws wedi'u cynllunio gyda rhai o'n disgyblion ysgol ac aelodau eraill o'n cymuned."

Chwilio A i Y

Back to top