Bydd Cymru’n pleidleisio ddydd Iau 7 Mai 2026. Ewch i'n tudalen wybodaeth Etholiad y Senedd.
Casgliadau ailgylchu
Casgliadau: Wythnosol
Gwybodaeth am fagiau a bocsys ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cofiwch eu rhoi ar garreg y drws/wrth ymyl y ffordd cyn 7.00am ar ddiwrnod eich casgliad ailgylchu.
Os ydych angen rhagor o fagiau neu focsys ailgylchu, gallwch eu harchebu ar-lein - Archebu bocsys a bagiau ailgylchu
Nid oes gan rai fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel ddigon o le i gasglu ailgylchu o ymyl y ffordd. Gall preswylwyr yr eiddo hyn ddefnyddio biniau a rennir i ailgylchu eu gwastraff yn agos i’w cartrefi - Ailgylchu mewn fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel.
Diweddariadau casglu
Os credwch fod eich casgliad wedi’i fethu, gallwch weld y diweddariadau a’r cyngor ar-lein.
Ni ddylech roi deunyddiau tymhorol megis barbeciw, pwll tân, nwy gwersylla a nwy patio, glo a lludw allan ar gyfer casgliadau ailgylchu a gwastraff wrth ymyl y ffordd.
Mae'r eitemau hyn ochr yn ochr â fêps, tanwyr sigaréts, nwy coginio, paentiau chwistrellu, ewyn ymledol, tanwyddau tanwyr a thuniau cywasgedig eraill yn hynod fflamadwy a gallant achosi tân.
Dylech fynd â'r rhain i'ch canolfan ailgylchu leol i'w gwaredu'n ddiogel.
Cynwysyddion ailgylchu
Sach oren - Cardfwrdd
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- pecynnau cardfwrdd
- Papur brown
- bocsys wyau
- cardiau pen blwydd
- cartonau diod cwyrog sydd hefyd yn cael eu galw’n becynnau tetra
Peidiwch â chynnwys:
- Papur wal
- Papur lapio
- Hancesi papur
- Tyweli papur
Os oes gennych chi unrhyw ddarnau mawr ychwanegol o gardfwrdd, rhowch nhw wrth ymyl eich sach oren ar gyfer eu casglu.
Sach glas - Plastig, caniau, erosolau a ffoil
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- poteli plastig fel poteli llaeth, diod a siampŵ
- cynwysyddion bwyd fel potiau iogwrt a thybiau mererin
- cwpanau plastig
- hambyrddau bwyd heb fod yn ddu
- pynets
- caniau aerosol gwag
- hambyrddau a chynwysyddion ffoil
- tuniau bwyd
- caniau diod
Peidiwch â chynnwys:
- plastig du
- bagiau plastig gan gynnwys bagiau cario, bagiau bara a bagiau bwyd rhew
- ffilm plastig, cling film a’r deunydd lapio sydd am felysion a bisgedi
- plastig LDPE 4
- pecynnau creision/ffoil cefn papur fel codau ffoil
- deunydd lapio swigod
- cloriau CD/DVD a fideo
- polystyren
- teganau a phlastig caled arall
- potiau planhigion
- paent chwistrell
- canisters nwy
Sach gwyn - Papur
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- papur
- papur newydd
- cylchgronau
- cyfeirlyfrau ffôn
- catalogau, ond cofiwch dynnu unrhyw orchuddion cardfwrdd
- papur wedi’i rwygo – ychydig ar y tro
- post jync gan gynnwys amlenni
Peidiwch â chynnwys:
- papur wal
- papur lapio
- hancesi papur
- tyweli papur
- papur cegin
- cerdyn
- Papur brown
Cadi brown - Gwastraff bwyd
Mae hwn yn cynnwys y canlynol:
- bwyd wedi a heb ei goginio
- cig
- pysgod
- esgyrn
- crwyn
- bagiau te
- bwyd anifeiliaid anwes
Peidiwch â chynnwys:
- gwastraff gardd
- blodau wedi’u torri
Cadi du - Gwydr
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- poteli gwydr
- jariau gwydr
Peidiwch â chynnwys:
- cerameg a tsieina
- gwydrau yfed
- paenau gwydr
- pyrex
- bylbiau golau
Gellir ailgylchu gwydr drosodd a throsodd heb golli unrhyw ansawdd.
Absorbent Hygiene Product collections
Collections: Fortnightly (Same day as your non-recyclable waste collection)
Please note: You need to register to use this service.
Please include:
- Nappies
- Colostomy bags
- Adult incontinence pads
- Plastic bed sheets
- Plastic gloves
- Disposable aprons
- Paper tissues
- Wipes
Do not include:
- Feminine hygiene products
Pethau miniog a gwastraff clinigol
Nid ydym yn casglu gwastraff clinigol na theclynnau miniog sy’n cael eu cynhyrchu mewn lleoliad domestig.
Cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf os oes arnoch angen cael gwared ar yr eitemau hyn.
Cofiwch!
Gallwch hefyd ailgylchu’r canlynol ar garreg y drws:
- Tecstilau ac esgidiau paredig - Rhowch nhw mewn bag plastig
- Batris, ffonau symudol a sbectolau haul/sbectolau - Rhowch nhw mewn bag plastig neu fag brechdanau
- Eitemau trydanol bychain, fel tostwyr, tegelli, heyrn smwddio a sychwyr gwallt. Dim sgriniau, e.e. gliniaduron neu Deledu - Rhowch nhw mewn bag plastig