Ymgynghoriad ar y Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Seilwaith Gwyrdd Drafft
Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Seilwaith Gwyrdd Drafft wedi'i baratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Pwrpas y CCA hwn yw darparu manylion ychwanegol ar sut y dylid dehongli a chymhwyso Polisi DNP8: Seilwaith Gwyrdd (wedi’i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, a fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2024) yn ymarferol.
Mae'n egluro gofynion y polisi ac yn nodi sut y bydd cynigion yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn amddiffyn seilwaith gwyrdd presennol ac yn integreiddio seilwaith gwyrdd newydd o ansawdd uchel ledled y fwrdeistref sirol i gefnogi cymdogaethau iachach, mwy gwydn a mwy bioamrywiol.
Mae'n amlinellu sut y dylai cynigion datblygu integreiddio, amddiffyn, gwella a chryfhau seilwaith gwyrdd, wrth liniaru a gwneud iawn am unrhyw golledion anochel, yn unol â gofynion y CDLlN a'r polisi cynllunio cenedlaethol.
Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y CCA hwn yn ystyriaeth berthnasol wrth bennu’r holl geisiadau cynllunio, gan gynnwys ceisiadau ar gyfer adnewyddu caniatâd.
Mae'r CCA hwn yn rhoi canllawiau penodol ar:
- Egwyddorion seilwaith gwyrdd, gan gynnwys beth ydyw, pam mae'n bwysig, a'r ystod o asedau a nodweddion sy'n cyfrannu at rwydweithiau seilwaith gwyrdd;
- Y fframwaith polisi strategol a RhD ar gyfer seilwaith gwyrdd; gan gynnwys gofynion Polisi DNP8 o'r CDLlN;
- Gofynion cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys:
- Sut i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o asedau seilwaith gwyrdd presennol o fewn ac yn gyfagos i safle;
- Sut i ddeall, integreiddio, amddiffyn a chynnal asedau a nodweddion seilwaith gwyrdd presennol o fewn safleoedd datblygu ac yn gyfagos iddynt;
- Sut i wella a chryfhau ehangder, ansawdd, cysylltedd ac amlswyddogaeth seilwaith gwyrdd drwy gynigion datblygu;
- Sut i liniaru a gwneud iawn am effeithiau anochel ar asedau a nodweddion seilwaith gwyrdd neu eu colli; a
- Sut i lunio Datganiad SG (darperir templed).
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 29 Hydref ac 10 Rhagfyr 2026.
Dogfennau ymgynghori
Gellir gweld dogfennau’r ymgynghoriad isod.
Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy:
- lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@bridgend.gov.uk
- ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,
Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Bydd yn rhaid i bob sylw ddod i law erbyn 11:59pm, 10 Rhagfyr 2026.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol: