Ymgynghoriad ar y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Amlfeddiannaeth Drafft
Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Tai Amlfeddiannaeth Drafft wedi'i baratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Pwrpas y CCA hwn yw cefnogi a rhoi cyfarwyddyd pellach ar weithredu'r polisiau ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth a gynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) mabwysiedig (Mawrth 2024).
Mae'n nodi sut y dylid rheoli tai amlfeddiannaeth drwy'r system gynllunio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ei ddiben yw sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn gynaliadwy ac yn integreiddio'n gadarnhaol â chymunedau cyfagos. Mae angen cydbwysedd gofalus rhwng galluogi dewis tai ac osgoi gor-grynhoad o dai amlfeddiannaeth mewn ardaloedd penodol.
Yn unol â Pholisi CDLlN - COM7: Tai Amlfeddiannaeth, mae'r CCA drafft hwn yn cynnig meini prawf clir ar gyfer asesu cynigion tai amlfeddiannaeth i atal gormodedd.
Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, bydd y CCA hwn yn ystyriaeth berthnasol wrth bennu’r holl geisiadau cynllunio ar gyfer tai amlfeddiannaeth gan gynnwys ceisiadau ar gyfer adnewyddu caniatâd.
Mae'r CCA hwn yn rhoi canllawiau penodol ar:
- sut mae tai amlfeddiannaeth yn cael eu diffinio yn nhermau cynllunio a phryd mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer tai amlfeddiannaeth
- rolau Rheoliadau Cynllunio, Trwyddedu ac Adeiladu mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth
- cymhwyso'r prawf radiws (sicrhau nad yw mwy na 10% o'r eiddo yn dai amlfeddiannaeth o fewn radiws o 50m mewn unrhyw ardal benodol)
- sut mae cymeriad ac ymddangosiad yr ardal yn cael eu hystyried pan gynigir estyniadau neu newidiadau mawr
- sut y bydd maint a nifer y tai amlfeddiannaeth yn cael eu hystyried mewn perthynas â cheisiadau tai amlfeddiannaeth
- sut y bydd darpariaeth barcio leol yn cael ei hystyried mewn perthynas â cheisiadau tai amlfeddiannaeth
- ystyriaethau amwynder (meddianwyr tai amlfeddiannaeth yn y dyfodol a chymdogion)
- gofynion cyflwyno ar gyfer ymgeiswyr.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg am 6 wythnos rhwng 06 Hydref a 16 Tachwedd 2025.
Dogfennau ymgynghori
Gellir gweld y ddogfen ymgynghori CCA isod.
Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd a gellir ei chyflwyno drwy:
- Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@Bridgend.gov.uk
- Argraffu a phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Rhaid derbyn pob sylw erbyn 11:59pm ar 16 Tachwedd 2025.
Cysylltu
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol: