Ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer Tai Fforddiadwy

Mae gan y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN, Mawrth 2024) mabwysiedig rôl allweddol o ran sicrhau bod datblygiadau tai newydd yn ymgorffori cymysgedd o dai marchnad agored a thai fforddiadwy, a thrwy hynny, cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy, cydlynol.

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Tai Fforddiadwy drafft wedi cael eu paratoi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arnynt. Bwriedir i'r CCA gefnogi a rhoi cyfarwyddyd pellach ynghylch gweithredu'r polisïau Tai Fforddiadwy a geir yn y CDLlN mabwysiedig. Maent yn amlinellu sut y dylid darparu Tai Fforddiadwy drwy'r system gynllunio ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rhaid i Dai Fforddiadwy Newydd fodloni 'angen am dai'  fel y nodir yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol, neu ymateb i angen lleol a nodwyd gan yr Awdurdod Tai Lleol, gan alluogi datblygiadau cynaliadwy sy'n seiliedig ar yr egwyddor o greu lleoedd. Mae’r dull amlweddog hwn yn allweddol i sicrhau cymunedau cytbwys, cymdeithasol gydlynol a chynaliadwy.

Cyn gynted ag y cânt eu mabwysiadu, bydd y CCA Tai Fforddiadwy yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ynghylch pob cais cynllunio am ddatblygiad preswyl, gan gynnwys ceisiadau i adnewyddu caniatâd. Bydd yn diweddaru ac yn disodli'r CCA 13 Tai Fforddiadwy (2015) a fabwysiadwyd yn flaenorol.

Mae’r CCA drafft yn rhoi canllawiau penodol wedi’u diweddaru ar:

  • Ofynion tai fforddiadwy ar gyfer datblygiadau preswyl, gan gynnwys lefel y ddarpariaeth yn ôl lleoliad, ynghyd â math, deiliadaeth, maint a safon y tai fforddiadwy sydd eu hangen;
  • Clystyru Tai Fforddiadwy mewn modd cynaliadwy a'r gofyniad i bob datblygiad gydymffurfio ag egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy;
  • Defnyddio rhwymedigaethau cynllunio (drwy gytundebau Adran 106) i sicrhau darpariaeth Tai Fforddiadwy hyd ddiwedd oes y datblygiad;
  • Y broses enwebu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs);
  • Diffiniadau o hawliau enwebu ac aelwydydd cymwys (gan gynnwys angen lleol am dai a chysylltiadau lleol);
  • Ymagwedd y CDLlN at ddarpariaeth oddi ar y safle a chyfraniadau ariannol yn lle darparu Tai Fforddiadwy ar y safle;
  • Defnyddio'r Grant Tai Cymdeithasol (y brif raglen gyfalaf a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd ar gael i RSLs) i ddarparu Tai Fforddiadwy mewn perthynas â'r system gynllunio;
  • Pennu gwerthoedd trosglwyddo newydd ar gyfer Tai Fforddiadwy dim grant a sicrheir drwy Adran 106 fel rhan o ddatblygiadau preswyl mawr;
  • Sut y gellir ystyried materion yn ymwneud â hyfywedd datblygiad mewn perthynas â darpariaeth Tai Fforddiadwy; a
  • Safleoedd Eithriadau Tai Fforddiadwy (tai fforddiadwy ar dir na fyddai fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai).

Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos rhwng 13/02/2025 a 27/03/2025.

Dogfennau ymgynghori

Gellir gweld drafft o Ddogfen Ymgynghori'r CCA isod.

Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy:

  • Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i 
  • Ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Rhaid derbyn pob sylw erbyn 11:59pm ar 27/03/2025.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol ar 01656 643168  neu.

Chwilio A i Y

Back to top