Ymgynghoriad Drafft ar Ganllaw Cynllunio Atodol Datblygiad Manwerthu a Masnachol

Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft) – Datblygiadau Manwerthu a Masnachol wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Pwrpas hyn yw cefnogi a rhoi cyfarwyddyd pellach ynghylch gweithredu'r polisïau datblygu manwerthu a masnachol a geir yng Nghynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN, Mawrth 2024) Mabwysiedig Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'n rhoi canllawiau pellach ar ddatblygiadau manwerthu a masnachol er mwyn gwarchod bywiogrwydd, atyniad a hyfywedd y canolfannau manwerthu dynodedig, yn unol â'r ymagwedd a amlinellir mewn Polisi Cynllunio Cenedlaethol.

Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo ymgeiswyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth ystyried newidiadau defnydd penodol mewn canolfannau manwerthu a datblygiadau eraill yng nghanol trefi, yn unol â pholisïau’r CDLlN, Cynllun Cenedlaethol 2040 (Cymru’r Dyfodol) ac yng ngoleuni ystyriaethau perthnasol eraill, i sicrhau bod canolfannau manwerthu'r Fwrdeistref Sirol yn gynaliadwy am y tymor hir.

Bydd y CCA hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ynghylch pob cais cynllunio am ddatblygiad manwerthu a masnachol, gan gynnwys ceisiadau i adnewyddu caniatâd.

Mae’r CCA yn rhoi arweiniad penodol ar:

  • Ddatblygiad yng nghanolfannau masnachol Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg (gan gynnwys Prif Ardaloedd Siopa, Ardaloedd Siopa Eilaidd a'r tu allan i ardaloedd siopa ond o fewn canolfannau masnachol)
  • Defnyddiau heblaw A1, A2 ac A3 mewn canolfannau masnachol y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg
  • Datblygiadau manwerthu y tu allan i ganolfannau manwerthu a masnachol.

Dogfennau ymgynghori

Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy: 

Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos rhwng 19 Mawrth 2025 a 30 Ebrill 2025. Gellir gweld drafft o Ddogfen Ymgynghori'r CCA isod. 

Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy:

  • Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@Bridgend.gov.uk
  • Ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Rhaid derbyn pob sylw erbyn 11:59pm ar 30 Ebrill 2025.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol:

Ffôn: 01656 643168
Cyfeiriad ebost: LDP@Bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top