Chwiliadau tir
Mae chwiliad Awdurdod lleol yn cynnwys dwy ran a Ffurflen Opsiynol am ymholiadau pellach:
- CON29 - yn delio gyda materion fel cynlluniau ffordd, hanes cynllunio yr eiddo a materion amgylcheddol.
- CON29O - yn ffurflen opsiynol yn delio gydag ymholiadau pellach a all ddelio yn benodol gyda’r tir/eiddo yn cael ei archwilio.
Dylech dderbyn canlyniadau’r chwiliad o fewn 15 diwrnod gwaith. Nid ydym yn cynnal chwiliadau’n gyflymach na hynny. Bydd y chwiliadau sy’n cyrraedd ein swyddfeydd yn gynt yn cael eu prosesu’n gynt.
Os na fyddwch wedi derbyn canlyniadau eich chwiliad ar ôl 15 diwrnod gwaith, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cysylltu ar waelod y dudalen hon.
Y terfyn ar gyfer derbyn chwiliadau newydd bob dydd yw 10.30am. Os byddwn yn derbyn eich cais am chwiliad ar ôl yr amser hwn, byddwn yn dechrau ei brosesu y diwrnod gwaith canlynol.
Ffurflenni chwiliad tir
Gellir cyflwyno’r ffurflenni hyn gyda’i gilydd neu ar wahân. Er enghraifft, os mai dim ond un cwestiwn rydych eisiau ateb iddo ar CON29O, does dim angen cyflwyno chwiliad llawn. Rydym angen cynllun yr un fath.
Os oes unrhyw beth arall rydych eisiau ei wybod am y tir sydd heb ei ddatgelu’n safonol, cewch ofyn eich cwestiynau ychwanegol eich hun.