O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Diogelwch ar Feysydd Chwaraeon
Noda Deddf Diogelwch ar Feysydd Chwaraeon 1975 a Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 fod unrhyw stadiwm chwaraeon sy’n darparu lle ar gyfer mwy na 10,000 o wylwyr yn cael eu hystyried yn ‘ddynodedig‘ ac mae unrhyw stand sy’n dal mwy na 500 yn cael ei ystyried yn ‘rheoledig’.
Mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch benodol.
Rydym yn dilyn yr argymhellion yng Nghanllaw’r Swyddfa Gartref i Ddiogelwch ar Feysydd Chwaraeon.
Pan ystyrir bod maes chwaraeon yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau diogelwch, rydym yn cyflwyno tystysgrif diogelwch ac yn cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i wneud hynny.
Cysylltu
