Cysylltu â Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Rydyn ni’n gweithio gydag oedolion i ddarparu’r gofal, y cymorth neu’r warchodaeth briodol ar eu cyfer. Dyma rai o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu:

  • gwybodaeth a chyngor
  • gwarchod oedolion diamddiffyn rhag niwed neu esgeulustod
  • cefnogi pobl sy’n gofalu am eraill

Mae pob ymholiad newydd yn dod drwy’r Pwynt Mynediad Cyffredin (PMC). Nid ydym yn derbyn galwadau am ofal cymdeithasol i blant. Ar gyfer hynny, edrychwch ar y dudalen ar gyfer gysylltu â gofal cymdeithasol plant.

Bydd aelod o’r tîm yn holi mwy am yr amgylchiadau perthnasol.

Byddant yn rhoi gwybodaeth a chyngor fydd efallai o gymorth, a gallant drefnu asesiad anghenion gofal cymdeithasol os bydd angen.

Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB
Ffôn: 01656 642279
Ffôn: SMS ar gyfer cwsmeriaid byddar a thrwm eu clyw 07581 157014
Ffôn: Argyfyngau tu allan i oriau swyddfa 01443 743 665
Ffacs: 01656 724457
Cyfnewid testun: 18001 01656 642279
Oriau Agor 1: 8:30am i 5:00pm Llun – Iau
Oriau Agor 2: 8:30am i 4:30pm - Gwener

Os yw un o’n timau rhwydwaith integredig ar gyfer oedolion yn darparu gofal neu gymorth ar hyn o bryd, mae’r manylion cyswllt ar gael isod.

Wardiau’r Dwyrain

Ffôn: 01656 643488

Dyma wardiau’r dwyrain: Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Bracla, Bryntirion, Cefn Glas, Coety, Llangrallo, Litchard, Hendre, Felindre, Llangewydd, Morfa, Pendre, Trelales a Merthyr Mawr.

Wardiau’r Gorllewin

Ffôn: 01656 643490

Dyma wardiau’r gorllewin: Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd a De Corneli a Phorthcawl.

Wardiau’r Gogledd

Ffôn: 01656 643489

Dyma wardiau’r gogledd: Abercynffig, Betws, Blackmill, Blaengarw, Bryncethin, Bryncoch, Caerau, Llangeinor, Maesteg, Nantymoel, Pontycymer, Cwm Ogwr, Llangynwyd, Penyfai, Sarn ac Ynysawdre.

Cynorthwyo gydag adfer yn y gymuned (ARC) yw ein gwasanaeth ni sy’n cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol

Chwilio A i Y

Back to top