Mae hwn yn wasanaeth technoleg gynorthwyol sy’n helpu pobl i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’n un o sawl gwasanaeth o’r fath sy’n allweddol ar gyfer hyn. Mae Teleofal Bridgelink yn cynnig sicrwydd o wybod y gall rhywun helpu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae Telecare yn defnyddio:
- uned llinell fywyd
- llinyn gwddf
- a synwyryddion cymhleth eraill weithiau
Gall yr holl offer ganu larwm drwy gyfrwng galwad ffôn i aelod penodol o’r teulu, gofalwr, ffrind neu ein canolfan fonitro.
Gall ein canolfan fonitro helpu i drefnu cymorth gan ein Tîm Ymateb Symudol 24 awr neu’r gwasanaethau brys, yn ogystal ag unrhyw un sydd wedi’i restru fel cyswllt mewn argyfwng.
Ar yr amod nad oes arnynt angen cymorth meddygol, gall ein Tîm Ymateb Symudol helpu i godi rhywun oddi ar y llawr.
Hefyd, mae’r tîm yn darparu gofal personol ac yn sicrhau bod pobl yn cael eu gadael mor gyfforddus a diogel â phosib.
Pwy sy’n gallu cael eu hatgyfeirio
Gall unrhyw un ofyn am atgyfeiriad ar gyfer asesiad teleofal.
Mae’r gwasanaeth ar gyfer oedolion a phlant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, gall Teleofal helpu rhywun i gynnal ei rôl fel gofalwr teulu drwy gyfrwng galwr sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r gofalwr yn unig.
Gwneud Cais am Asesiad Atgyfeiriad
Mae holl becynnau offer Teleofal yn cael eu teilwra i anghenion unigolion, sy’n sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau.
Mae’r asesiadau’n penderfynu pa gefnogaeth all rhywun ei chael nawr a beth all fod o help yn y dyfodol. Wrth i anghenion newid, gellir addasu’r offer a’r pecyn teleofal.
Am fwy o wybodaeth am Teleofal Bridgelink neu atgyfeiriad am asesiad, cysylltwch â’r Pwynt Mynediad Cyffredin: