Canol Trefi

Beth am ymweld â’ch canol tref agosaf a helpu i gefnogi busnesau lleol.

Gyda chymysgedd o siopau annibynnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg, dyma’r lle delfrydol i gasglu unrhyw anrhegion funud olaf.

Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n dref farchnad ers yr 16eg ganrif, gymysgedd fywiog o siopau annibynnol, caffis ac enwau'r stryd fawr.

Canol tref Maesteg

Canol tref Maesteg

Mae'r profiad siopa fan hyn yn un cyfeillgar. Profwch yr ymdeimlad cryf o gymuned yng nghanol y dref, sy'n gartref i frandiau'r stryd fawr, siopau annibynnol a marchnad awyr agored sy'n clystyru o amgylch sgwâr marchnad newydd.

Canol tref Pencoed

Canol tref Pencoed

Mae Pencoed yn dref ffyniannus gydag ysbryd cymunedol cryf, cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â Chaerdydd ac Abertawe, sy'n gartref i Academi STEAM a champws Amaethyddol Coleg Penybont, ac mae ganddi amrywiaeth ardderchog o fusnesau a gwasanaethau lleol sy'n tyfu. O siopau a chaffis annibynnol i lyfrgell gyhoeddus ddeulawr, mannau gwyrdd hardd ac atyniadau cyfagos, mae Pencoed yn cynnig lle croesawgar i fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef. P'un a ydych chi'n archwilio canol y dref neu'n cefnogi busnesau lleol, mae digon i'w ddarganfod ym Mhencoed.

Canol tref Porthcawl

Canol tref Porthcawl

Yn union y tu ôl i'r Esplanade ar lan y môr, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth gyffrous o siopau a chaffis annibynnol, ynghyd â brandiau'r stryd fawr. 

Fwytai ‘Cyrchfan’

Ewch ar antur flasus ac ymweld â mannau bwyta anhygoel ac amrywiol sy’n cynnig ystod eang o brydau rhyngwladol.

>

Chwilio A i Y

Back to top