Os ydych yn tanysgirifio i’n gwasanaeth aillgylchu gwastraff gardd, nodwch y bydd casgliadau’r tymor hwn yn dod i ben ddydd Gwener 14 Tachwedd. Diolch am ailgylchu eich dail, glaswellt, planhigion, chwyn a thoriadau gwrychoedd - Casgliadau gwastraff gardd
Marchnad Maesteg
Mae Marchnad Maesteg yn farchnad awyr agored yng nghanol y dref.
Yn wreiddiol, roedd wedi’i lleoli ar islawr neuadd y dref yn 1881, ac arhosodd yn y lleoliad hwnnw am 137 o flynyddoedd. Yn 2016, agorodd y farchnad awyr agored newydd yn Sgwâr y Farchnad.
Cysylltu
Bydd rhywun yn ateb y ffôn tan 10:30am o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Os yw’r mater yn un brys, cysylltwch â’r Tîm Masnachol gan ddefnyddio’r wybodaeth isod.
Gofod Dros Dro ym Marchnad Maesteg
Mae 'For a Limited Time Only...?' yn cynnig defnydd byrdymor o Uned 14 ym Marchnad Maesteg i roi cyfle i fusnesau arbrofi gyda syniadau, arddangos eu cynnyrch a denu cwsmeriaid newydd, heb unrhyw gost iddyn nhw.
Stondinau a masnachwyr presennol
| Sgwâr y Farchnad | Busnes/gwasanaeth |
|---|---|
| Andrews Garner. | Cigydd. |
| The Card Shop. | Gwerthu anrhegion dathlu. |
| Caffi Casey. | Caffi. |
| Michael's. | Trin gwallt. |
| Sew Sew. | Gwniadwraig trwsio ac altro. |
| Carmarthenshire Dairy Produce. | Siop fwydydd, cigoedd oer a phasteiod. |
| Maesteg Animal Welfare Society (MAWS). | Llyfrau ail law. |
| Valley Gold Jewellery Repair Shop. | Torri allweddi ac atgyweirio gemwaith. |
| Harrington Wealth Management | Financial Advisor. |
| Y Post Brenhinol. | Swyddfa Post. |
| Flower Shop. | Blodau, tuswau. |
Gwneud cais am stondin neu uned
- Nid oes unrhyw stondinau ar gael ar hyn o bryd
I wneud cais am stondin neu uned, cysylltwch â’r Tîm Masnachol: