Data am nifer yr ymwelwyr â chanol trefi

Mae ‘nifer yr ymwelwyr’, ‘footfall’ yn Saesneg, yn cyfeirio at nifer y cerddwyr mewn lle penodol. Rydym yn defnyddio data a gesglir o dan drwydded gan Springboard i gofnodi nifer y bobl mewn lleoliadau penodol yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.

MRI (Springboard yn flaenorol) Mae cyfrifwyr nifer ymwelwyr TST yn defnyddio technoleg fideo i adnabod gwrthrychau sy’n symud, drwy ddefnyddio camera fel “llygad” i edrych i lawr ar y stryd.

Wrth i bobl basio drwy barth rhithiol maent yn cael eu cofnodi fel rhif mewn ffeil electronig sy’n cynrychioli nifer yr ymwelwyr. Mae’r dulliau cyfrif yn cofnodi nifer yr ymwelwyr yn barhaus ac mae’n cael ei lunio’n adroddiad wythnosol ar gyfer creu crynodeb o’r wybodaeth.

Nifer yr ymwelwyr yw dwysedd y gweithgarwch a does dim un person unigol yn cael ei adnabod nac unrhyw ddata gweledol yn cael eu cadw.

Canol trefi Pen-y-bont ar Ogwr

Wythnos yn dechrau: 20 Ebrill 2025

Ardal Cyfanswm nifer yr ymwelwyr Wythnos ar ôl Wythnos Blwyddyn ar ôl Blwyddyn
Pen-y-bont ar Ogwr 83,535 +2% -8%
Porthcawl 49,731 +25% +2%
Maesteg 17,762 +10% -2%

Cysylltu

Am ddadansoddiad dyddiol, gan gynnwys manylion am y tywydd neu ffigurau wythnosol blaenorol, cysylltwch:

Cyfeiriad ebost: Regeneration@bridgend.gov.uk
Logo: Canol trefi

Chwilio A i Y

Back to top