Digwyddiadau yng nghanol y dref
Treuliwch eich haf yng nghanol trefi Pen-y-bont at Ogwr, Maesteg a Phorthcawl ac ymweld â llu o ddigwyddiadau cyffrous.
Mae digwyddiadau’r haf hwn yn cynnwys:
- Marchnad Fwyd, Crefftau ac Anrhegion Artisan
- Beachfest 2025
- Diwrnod y Lluoedd Arfog
- Ras y Ceidwad
- 10K Brecon Carreg Porthcawl
- Prosiect Iwcalili Cymru
- Sioe Cerbydau Clasurol Pen-y-bont ar Ogwr
- Diwrnod Hwyl i’r Teulu

Marchnad Fwyd, Crefftau ac Anrhegion Artisan
30 Awst 2025
Sgwâr y Farchnad, Maesteg
Marchnad arbennig yn llawn cynnyrch annibynnol megis bwyd artisan lleol, a gwneuthurwyr crefftau ac anrhegion artisan lleol. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i drefnu gan Green Top Markets.
Green Top Markets
Marchnad Grefftau Dros Dro
30 Awst 2025
10am - 4pm
Canolfan Siopa’r Rhiw
Mae'r farchnad grefftau dros dro fisol hon yn arddangos cynhyrchion hardd wedi'u gwneud â llaw. Mae'r holl grefftwyr talentog o’r adral leol, ac yn gwneud pob eitem â llaw.