O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Parc Llesiant Maesteg
Mae Parc Llesiant Maesteg tua naw pwynt pedwar hectar o barcdir ffurfiol.
Yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’n cynnwys caeau rygbi, lawntiau bowlio, cyrtiau tennis, lawntiau blodau a llwybrau â choed bob ochr iddynt. Cynhelir gŵyl leol yn y parc bob haf.
Mae nodweddion mwyaf newydd y parc yn cynnwys pyllau bywyd gwyllt, sianeli dŵr ffo, llwybrau a phont droed. Cwblhawyd y gwaith yma gyda Ffrindiau Parc Llesiant Maesteg.
Ceidwad y Cwm
‘Ceidwad y Cwm’ yw un o’n cerfluniau derw ‘Ceidwaid Natur’. Maent yn ychwanegu diddordeb at ein mannau prydferth a chyda’r cerddi sy’n cyd-fynd â nhw, maent yn dal dychymyg yr ymwelwyr iau trwy blethu chwedloniaeth yn y safleoedd.
Y nod yw tanio cysylltiad emosiynol â’n man gwyrdd, ac felly annog pobl i ymweld, yn ogystal â chymryd mwy o ofal ohonynt.