Canolfannau Ieuenctid

Dyma gyflwyno Strafagansa Canolfan Ieuenctid Mynediad Agored! Hei, bobl ifanc gwych y dref! Ydych chi'n barod i ddechrau ar daith llawn cyffro, creadigrwydd a hwyl? Dyma'r lle i chi, achos mae gennym ni rywbeth epig ar eich cyfer chi!

Ymunwch â ni yn y Ganolfan Ieuenctid Mynediad Agored, y lle gorau i fod i bob un ohonoch chi bobl ifanc gwych sy'n 11 a throsodd! Dyma gipolwg bach ar beth fydd ar gael ei chi yn ystod ein sesiynau:

  • Coginio: Rhyddhewch y MasterChef mewnol sydd ynoch chi a rhowch gynnig ar greu danteithion blasus.
  • Pŵl a Thennis Bwrdd: Byddwch yn barod am ychydig o gystadlu cyfeillgar a dangos eich sgiliau ar y byrddau ffelt a phing-pong.
  • Gwallt a Harddwch: Dysgwch am y cynghorion harddwch diweddaraf, steil gwallt a thechnegau colur. Amser am steil gwallt glam - neu arbrofi gyda rhywbeth ychydig bach yn ffynci!
  • Cerddoriaeth: Teimlwch y rhythm a chreu trawiadau cofiadwy gyda'n sesiynau cerdd. Mae yna seren roc ym mhob un ohonoch!
  • Celf a Chrefft: Gadewch i'ch creadigrwydd ddisgleirio gyda chelf a chrefft. Beth am baentio, darlunio a gwneud gwaith crefft nes y byddwch wedi creu eich campwaith gorau erioed.
  • Ymlaciwch: Wedi awr yn llawn cyffro, mae'n amser ymlacio a rhoi traed lan yn eich cwtsh cyfforddus. Cyfle i ddal fyny gyda ffrindiau, darllen neu bod yn brysur yn gwneud dim!
Youth support graphic

Dod â Gwasanaethau i Chi!

  • Gweithwyr ieuenctid cymwysedig a chyfeillgar
  • TV / consolau chwaraeon
  • Lle cynnes a chyfforddus i fod ynddo
  • Chwaraeon a gweithgareddau
  • Cyngor cyfrinachol ar iechyd rhywio
  • Condomau am ddim

Gwiriwch @BCBCYS i weld lle rydym ni’n mynd i fod!

Chwilio A i Y

Back to top