Canolfan Ieuenctid Evergreen

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Ieuenctid Evergreen, i chi bobl ifanc anhygoel 11 oed ac yn hŷn!

Dyma gipolwg ar yr hyn sydd gennym ar y gweill i chi yn ystod y sesiynau:

  • Cystadleuaeth Pêl-fasged: Ewch amdani i anelu at y rhwyd a dangos eich symudiadau
  • Cystadlaethau Pŵl: Rhowch y peli yn eu lle a chystadlu i ennill
  • Bwrdd Gemau Infinity: Heriwch eich ffrindiau i oriau bwygilydd o hwyl a gemau
  • Gemau PS5: Beth am gystadlu ar y consol diweddaraf
  • Dawns a Charioci: Dewch draw i ddawnsio neu i ganu nerth eich pen i'ch hoff gerddoriaeth
  • Danteithion o'r Siop: Cyfle i gael gafael ar snac neu ddau i gadw nerth
  • Hwyl Ffitrwydd: Amser symud efo heriau ffitrwydd ffantastig
  • Gemau Bwrdd i Bawb: Mwynhewch y gemau bwrdd clasurol - a'r rhai newydd

A dim ond y dechrau yw hynna! Dewch draw am chwa o hwyl a chyffro bob wythnos.

Canolfan Ieuenctid Evergreen

Canolfan Ieuenctid Evergreen

Cyfeiriad: Neuadd Evergreen, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AD.
Oriau Agor 1: Dydd Mawrth: 5pm - 7pm
Oriau Agor 2: Dydd Mercher: 5pm - 7pm

Chwilio A i Y

Back to top