Canolfannau Ieuenctid
Dyma gyflwyno Strafagansa Canolfan Ieuenctid Mynediad Agored! Hei, bobl ifanc gwych y dref! Ydych chi'n barod i ddechrau ar daith llawn cyffro, creadigrwydd a hwyl? Dyma'r lle i chi, achos mae gennym ni rywbeth epig ar eich cyfer chi!
Ymunwch â ni yn y Ganolfan Ieuenctid Mynediad Agored, y lle gorau i fod i bob un ohonoch chi bobl ifanc gwych sy'n 11 a throsodd! Dyma gipolwg bach ar beth fydd ar gael ei chi yn ystod ein sesiynau:
- Coginio: Rhyddhewch y MasterChef mewnol sydd ynoch chi a rhowch gynnig ar greu danteithion blasus.
- Pŵl a Thennis Bwrdd: Byddwch yn barod am ychydig o gystadlu cyfeillgar a dangos eich sgiliau ar y byrddau ffelt a phing-pong.
- Gwallt a Harddwch: Dysgwch am y cynghorion harddwch diweddaraf, steil gwallt a thechnegau colur. Amser am steil gwallt glam - neu arbrofi gyda rhywbeth ychydig bach yn ffynci!
- Cerddoriaeth: Teimlwch y rhythm a chreu trawiadau cofiadwy gyda'n sesiynau cerdd. Mae yna seren roc ym mhob un ohonoch!
- Celf a Chrefft: Gadewch i'ch creadigrwydd ddisgleirio gyda chelf a chrefft. Beth am baentio, darlunio a gwneud gwaith crefft nes y byddwch wedi creu eich campwaith gorau erioed.
- Ymlaciwch: Wedi awr yn llawn cyffro, mae'n amser ymlacio a rhoi traed lan yn eich cwtsh cyfforddus. Cyfle i ddal fyny gyda ffrindiau, darllen neu bod yn brysur yn gwneud dim!
Golygyddion Ifanc
Pryd: Bob dydd Iau, 4.30pm - 6.30pm
Ble: Neuadd Bytholwyrdd, Stryd yr Angel, CF31 4AD
Rhyddhewch eich creadigrwydd yn ein grŵp cymunedol rhyngweithiol lle gallwch ennill sgiliau gwerthfawr. Rhowch gynnig ar ddylunio, cyfryngau cymdeithasol, marchnata, adeiladu gwefan a mwy!
Pobl Ifanc Pride - YPOP
Pryd: Bob dydd Llun, 5pm - 7pm
Ble: Neuadd Bytholwyrdd, Stryd yr Angel, CF31 4AD
Ymunwch â ni mewn lle diogel a chyffrous, lle gallwch gymysgu, gwneud ffrindiau newydd a darganfod yr holl bethau gwych sydd gan Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr i'w gynnig. (11-17 oed)
Clwb Dawel (Atgyfeiriad yn unig)
Pryd: Bob dydd Iau, 4.30pm - 6.30pm
Ble: Neuadd Bytholwyrdd, Stryd yr Angel, CF31 4AD
Ymunwch â ni mewn amgylchedd heddychlon lle gallwch gwrdd â phobl newydd sy’n mwynhau awyrgylch tawelach. P’un a ydych yn mwynhau darllen, celf a chrefft, gemau bwrdd neu ymlacio gyda chwmni da, hwn yw’r lle i chi.
Dod â Gwasanaethau i Chi!
- Gweithwyr ieuenctid cymwysedig a chyfeillgar
- TV / consolau chwaraeon
- Lle cynnes a chyfforddus i fod ynddo
- Chwaraeon a gweithgareddau
- Cyngor cyfrinachol ar iechyd rhywio
- Condomau am ddim
Gwiriwch @BCBCYS i weld lle rydym ni’n mynd i fod!